Caernarfon Herald

Cysylltiad Castell Dolbadarn a’r £20 newydd

- GAN ERYL CRUMP

BETH yw’r cysylltiad rhwng castell hanesyddol yn Eryri a’r papur £20 newydd tybed?

Does ganddo ddim byd i wneud a’r ffaith fod Castell Dolbadarn ger Llanberis yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn eleni ond ar gefn yr £20 newydd mae darlun o’r arlunydd William Turner.

Daeth Turner i Lanberis ddwywaith ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif fel rhan o’i deithiau eang o amgylch gwledydd Prydain i ddilyn ei grefft a phaentio miloedd o hen gestyll a golygfeydd o bob math. Fel arlunydd byddai’n braslunio llun o’i bwnc mewn llyfr poced bach ac yna’n cwblhau’r paentiad yn ei stiwdio yn Llundain.

Ar ôl iddo farw, pan adawodd ei holl waith i’r wlad yn ei ewyllys, roedd dros 350 o lyfrau poced yn cwmpasu’r rhan fwyaf o’i waith yn ystod ei deithiau ledled Prydain.

Enwyd pob un o’r llyfrau gan gynnwys ‘Llyfr Braslunio Dolbadarn’ a oedd yn llawn lluniau o ddyffryn Peris gyda’r castell yng nghanol pob paentiad. Tra yn yr ardal fe baentiodd bedwar llun a’r enwocaf, oedd ‘Dolbadarn Castle’ ym 1799.

Mae’n debyg y gwnaed tri o’r paentiadau â golygfeydd mynyddig yn ystod ei ymweliad ym 1798 gyda’r castell yn amlwg mewn dau o’r paentiadau. Mae’n debyg, pan ddychwelod­d i Lundain yn yr un flwyddyn, cynyddodd ei ddiddordeb yn hanes y castell i’r fath raddau nes iddo ymchwilio i hanes Llywelyn ac Owain Goch ac yna dychwelyd i Llanberis i ddechrau’r gwaith ar baentiad enwog y castell.

Roedd yn anghyffred­in i Turner ddychwelyd i rywle ac mae sawl hanesydd celf yn credu bod ganddo hoffter mawr i gastell Dolbadarn oherwydd yr hanes cythryblus chwe canrif yng nghynt.

Adeiladwyd castell Dolbadarn gan Llywelyn Fawr 800 mlynedd yn ôl ar waelod Bwlch Llanberis.

Roedd yn gastell filwrol bwysig ac fel symbol o bwer ac awdurdod Llywelyn.

Mae’n nodedig hefyd am fod castell Cymreig cyntaf i gael ei adeiladu o gerrig. Yn flaenorol roedd amddiffynf­eydd a adeiladwyd gan dywysogion Cymru yn bren a phridd. Yn briodol, adeiladwyd y castell yn bennaf o lechi sydd i’w gael yn helaeth yn ardal Llanberis. Roedd Llywelyn Fawr yn gyfrifol am adeiladu’r cestyll yn Nolwyddela­n, Cricieth, Deganwy a Chastell y Bere ger Tywyn.

Roedd Llywelyn, ei enw llawn oedd Llywelyn ap Iorwerth, yn Frenin Gwynedd ac yn y pen draw yn rheolwr ar Gymru gyfan. Trwy gyfuniad o ryfel a diplomyddi­aeth bu’n dominyddu Cymru am 45 mlynedd.

Fe allai hefyd fod yn ddidostur ac mewn ffrae gyda’i frawd Owain Goch, pe bai wedi ei garcharu am ryw 20 mlynedd.

Nid yw’n eglur ble cafodd Owain ei ddal ond mae rhai haneswyr yn credu iddo gael ei gadw yn Nolbadarn.

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ym 1240, dirywiodd pŵer Gwynedd a chymerwyd llawer o’i diroedd dwyreiniol gan Harri III o Loegr. Ond parhaodd y gwrthdaro rhwng tywysogion Cymru a brenhinoed­d Lloegr yn nheyrnasia­d Edward I.

Yn 1282 ymladdodd mab Llywelyn, Llywelyn ap Gruffydd, ymgyrch olaf a ddaeth i ben yn ei farwolaeth yng Nghilmeri.

Daeth ei frawd, Dafydd ap Gruffydd, i rym ac yn ystod 1283 roedd ei lywodraeth wedi’i lleoli yng Nghastell Dolbadarn. Defnyddiod­d Edward 7,000 o filwyr i ymladd Dafydd a gafodd ei ddienyddio ym mis Hydref 1283 a meddiannwy­d Dolbadarn gan luoedd Normanaidd.

Roedd Edward yn benderfyno­l o atal unrhyw wrthryfel pellach yng Ngogledd Cymru ac aeth ati i adeiladu cyfres o gestyll a threfi muriog newydd, gan ddisodli hen system weinyddol Cymru â thywysogae­th newydd a lywodraeth­wyd o Gaernarfon.

Nid oedd Dolbadarn yn berthnasol mwyach ac ymhen dwy flynedd roedd pren o’r castell yn cael ei ddefnyddio gan y Normaniaid ar gyfer adeiladu Castell Caernarfon. Roedd hwn yn weithred ymarferol a symbolaidd, gan ddangos pŵer Normanaidd dros un o feddiannau pwysicaf tywysogion Cymru.

Roedd teithio o Lundain i Llanberis yn ystod blynyddoed­d olaf y ddeunawfed ganrif yn heriol. Roedd ymhell cyn y rheilfford­d a’r A5. Mae’n debyg iddo deithio o’r Amwythig ar hyd yr hen ffordd cyn belled â Capel Curig cyn teithio trwy Gwm Mymbyr ac yna dros Fwlch Llanberis.

Yn ystod ei ymweliad dim ond ychydig o dyddynnod oedd gan Llanberis ar y pryd gan fod mwyafrif y boblogaeth yn byw yn Nant Peris Uchaf.

Yn ystod y ddau ymweliad â Llanberis arhosodd yn y New Inn, sef enw gwreiddiol gwesty Dolbadarn. Pan adeiladwyd gwesty Victoria ym 1830 cafodd ei enwi ar ôl y castell ond newidiwyd yr enw i Victoria ar gyfer ymweliad y Dywysoges Victoria ym mis Awst 1832.

Cafodd Turner ei anrhydeddu yn Llanberis pan enwyd stryd yn y pentref ar ei ôl gan ystâd Vaynol ym 1870.

Nawr dan ofal Cadw mae’r castell ar agor i ymwelwyr.

Mae pentrefwyr yn bwriadu dathlu’r pen-blwydd gyda chyfres o ddigwyddia­dau yn ddiweddara­ch eleni. Bydd gwaith ar dapestri, i’w greu o dan arweiniad yr artist Cefyn Burgess, yn cychwyn yn fuan. Bydd yn cael ei ddadorchud­dio mewn digwyddiad ym mis Mehefin.

 ??  ?? ■ Castell Dolbadarn (Llun Arwyn Roberts)
■ Castell Dolbadarn (Llun Arwyn Roberts)

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom