Hysbysebion Eisteddfodol yn rhoi cipolwg o’r gorffennol
UN o’r pethau sydd wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yw hysbysebu, ac mae’r newidiadau i’w gweld yn glir yn hen raglenni a rhestrau testunau’r Eisteddfod Genedlaethol.
Wrecsam oedd cartref yr Eisteddfod yn 1912, a chyda rhaglen swmpus yn costio chwe cheiniog i’w phrynu, roedd hysbysebwyr o bob math yn awyddus i’w nwyddau ymddangos yn y gyfrol boblogaidd.
Dyma sut roedd pawb yn cynllunio’u hymweliad â’r Eisteddfod cyn y we, teledu na radio.
Fodd bynnag ychydig iawn o fusnesau oedd yn dewis defnyddio’r Gymraeg.
Roedd nifer o’r hysbysebion yn gwerthu pob math o drugareddau – o blatiau a tseina i friciau a glo – a’r cyfan ar gael gan fusnesau lleol yn nalgylch yr ŵyl.
Efallai mai hysbyseb mwyaf amlwg y cyfnod yw tudalen gefn rhaglen 1912, hysbyseb ar gyfer Wrexham Lager Beers.
Rhyfedd gan ar y pryd, ac am bron i ganrif arall, ‘doedd dim bar ar y Maes.
Un o ddigwyddiadau mawr 1912 oedd trychineb y Titanic, a suddodd ar ei ffordd i America. Mae’n deimlad od gweld hysbyseb ar gyfer y White Star Line, perchnogion y llong. Mae’r cwmni’n tynnu sylw at y ‘wireless telegraphy, orchestra and unsurpassed comforts’, ond does dim sôn am y Titanic yn yr hysbyseb!
Hugh Evans a Gwasg y Brython bu’n gyfrifol am argraffu’r rhaglen am flynyddoedd. Un o fusnesau Cymraeg Lerpwl oedd Gwasg y Brython, a byddai’r cwmni’n treulio cryn amser yn casglu hysbysebion bob blwyddyn.
Roedd hysbysebion gan fusnesau amlwg fel Fry’s Chocolate a Jacob’s Cream Crackers yn ymddangos yn rheolaidd, ynghyd â hysbysebion gan sefydliadau fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a oedd yn cynnig cyrsiau am o £13 y flwyddyn.
Yn 1914, newidiodd y byd. Cafodd Cymru ei heffeithio’n ddirfawr gan y Rhyfel Mawr.
Bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor flwyddyn, ac mae Eisteddfod Penbedw, 1917, Eisteddfod y Gadair Ddu, yn un o ddigwyddiadau enwocaf Cymru, gan fod Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, wedi’i ladd ar faes y gad ychydig wythnosau cyn y Brifwyl, ac yntau wedi ennill y Gadair.
Roedd y rhyfel yn rhan o fywydau pawb, ac yn cyffwrdd â phob elfen o gymdeithas.
Ond, ni welwyd hyn yn yr hysbysebion ar gyfer rhestr testunau a rhaglen yr Eisteddfod am beth amser.
Roedd yr hysbysebion arferol, yn arbennig rhai lleol, wedi parhau i ymddangos drwy gydol y rhyfel.
Yn wir, doedd dim byd allan o’r cyffredin yn yr hysbysebion yn rhestr testunau Eisteddfod Y Barri 1920 gyda nifer o hysbysebion ar gyfer siopau dillad, cylchgronau a phianos yn ymddangos.
Ond daeth newid mawr erbyn cyhoeddi’r rhaglen gwta flwyddyn yn ddiweddarach, gydag amryw o hysbysebion yn hyrwyddo cynnyrch na fyddai wedi’i weld ychydig flynyddoedd ynghynt.
‘A boon to the lame’ meddai un ohonyn nhw, wrth hysbysebu coesau a breichiau artiffisial.
Mae cwmni Allen Pearce, o Gaerdydd, yn cynnig “Artificial legs; light weight and durable; crutches with non-slipping ends; trusses with or without steel bands”.
Roedd gwneuthurwyr cerrig beddau wedi hysbysebu yn y rhaglen yn achlysurol dros y blynyddoedd, ond mae un llinell ar hysbyseb John Fletcher Limited, Monumental Works, Carnarvon, yn tynnu’r llygad yn rhestr testunau 1921, ‘Contractors to HM Government,’ a oedd yn datgan fod y cwmni’n un o’r rheini a oedd yn cynhyrchu cerrig beddau ar gyfer milwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Newid byd yn wir o hysbysebion am ddillad a hetiau, caffis a gwestai a oedd i’w gweld fel rheol yn rhaglenni’r Brifwyl.
Hwn oedd cyfnod hysbysebion baco, rhywbeth na fyddai’n cael ei weld yn agos at unrhyw raglen na rhestr testunau erbyn heddiw.
Roedd cwmni Thomas Nicholls & Co. o Gaer yn hysbysebu’n rheolaidd am flynyddoedd yn ystod y cyfnod hwn, yn gwerthu Nicholls Union Jack Shag, gan ddatgan ‘Critical Smokers say: Should be in everyone’s mouth”.’
Ac roedd E Morgan a’r Gwmni, Amlwch yn gwerthu’u cynnyrch gan ddefnyddio’r slogan “Gore Baco – Baco Amlwch: Nid oes eu rhagorach i smocio a’u cnoi”.
Yn aml, byddai hysbysebion am gotiau a hetiau ffwr i’w gweld yn y rhaglen, yn enwedig pan oedd yr ŵyl i’w chynnal mewn ardal fwy trefol.
Roedd cwmni R Neill & Son o Lerpwl yn hysbysebu’r rheolaidd, ac erbyn heddiw, mae’u hysbyseb o raglen Eisteddfod Lerpwl 1929 yn ymddangos yn hynod o ddi-chwaeth.
Cartŵn ydyw o gwningen yn sefyll y tu allan i siop y cwmni yn edrych drwy’r ffenestr ac yn wylo wrth weld yr hetiau ffwr drudfawr, gan ddweud “Alas, my poor brother”.
Mae llawer iawn o’r cwmnïau hyn wedi diflannu erbyn hyn, ac mae’n ddiddorol nodi rhai o gyfeiriadau’r busnesau pan gyhoeddwyd y rhaglenni, ac edrych i weld beth sydd yno ar y strydoedd hyn erbyn heddiw.
Ond mae ambell hysbyseb yn parhau i fod yn berthnasol ac yn wir, bron i ganrif yn ddiweddarach.
Roedd y Daily Post yn hysbysebu’n rheolaidd yn y rhaglen yn ystod y 1920au, ac yn datgan ‘Eisteddfod you will find detailed reports every day in the Liverpool Daily Post.’
Yn bendant, ‘dyw rhai pethau byth yn newid!