Thought for the week
IN this crisis it is often the core family issues that we find most challenging. However, if like me you have a large family, then the last few weeks will have required you to navigate some new and uncharted waters.
How do you keep children entertained? When is it appropriate for them to interrupt you if you’re busy on a conference call? How do you arrange for home learning opportunities amidst the mayhem of family life? Social media will relay countless parodies of hilarious and unfortunate situations as we open our homes and expose our authentic selves and families of all shapes, sizes, paws and claws!
Technology has become the heart of so many interactions allowing us to remain connected with loved ones and continue to work. However, it is by no means a replacement for personal communication and the subtle characteristics of our souls that can be easily missed on a ‘conference call.’
I hope this new pace of life will allow us to slow down, find quiet and an equilibrium when we come out of the other side. May we all take from this, time to reflect on the importance of long conversations, time in the kitchen, time outside, enjoying music, reading, writing, and being creative.
I hope we carry with us the acts of kindness we have heard of and witnessed. May we remember the resilience of the human spirit and try to emulate those who have been a light in dark times. May we remember that our actions really do matter. When this is all said and done, let’s cherish the beauty of the new “normal” and stay hopeful, accepting with joy the anticipation of new ways of life that may lie ahead.
MYFYRDODAU ar ein ‘ arferol ‘ newydd
YN amlach na pheidio, materion teuluol craidd sy’n peri’r her fwyaf i ni, ond os oes gennych chi deulu mawr, yna bydd yr wythnosau diwethaf wedi gofyn i chi wynebu a mynd i’r afael ar heriau newydd. Sut ydych chi’n diddanu’r plant? Pryd mae’n briodol iddyn nhw dorri ar eich traws os ydych chi’n brysur ar alwad gwaith? Sut yr ydych yn neilltuo amser ar gyfer cyfleoedd dysgu yn y cartref yng nghanol miri bywyd teuluol? Yn ddiamau byddwn yn gweld engreifftiau lliwgar o sefyllfaoedd doniol ac anffodus wrth i ni agor ein cartrefi a datgelu ein hunain a’n teuluoedd o bob math, maint, pawenau a chrafangau!
Heb os, mae technoleg wedi dod yn rhan hanfodol o’n cyfathrebiaeth. Mae wedi ein galluogi i barhau i fod mewn cysylltiad gyda aelodau o’r teulu ac yn ein galluogi i barhau i weithio. Ond nid yw’n cymryd lle rhyngweithio personol a nodweddion cynnil ein hysbryd sydd yn mynd ar goll ar ‘ alwad cynhadledd‘.
Wrth adlweyrchu, rwy’n gobeithio y bydd arafwch ein bywydau newydd yn ein galluogi i ddod o hyd i dawelwch a chydbwysedd pan ddown allan drwy’r ochr arall. Gobeithiaf y cawn o hyn ymlaen, amser i fyfyrio, cynnal sgyrsiau hir, amser yn y gegin, amser yn yr awyr agored, mwynhau cerddoriaeth, darllen, ysgrifennu a bod yn fwy creadigol.
Gobeithio ein bod yn cofio y caredigrwydd yr ydym wedi clywed amdano a’u gweld yn ystod y cyfnod hwn, cofio gwytnwch yr ysbryd dynol a cheisio efelychu’r rhai sydd wedi bod yn oleuni yn ystod cyfnodau tywyll.
Gobeithio ein bod yn cofio bod y camau a gymerwn yn wirioneddol bwysig. Pan fydd hyn drososdd, gadewch i ni werthfawrogi yr “arferol” newydd a parhau i fod yn obeithiol, gan dderbyn gyda llawenydd y ffyrdd newydd o fyw sydd o bosib ar y gweill.
Lowri Brown