Yr Urdd yn barod i godi’r to gyda Eisteddfod T
FEL un o ddigwyddiadau ieuenctid mwyaf Ewrop, mae wythnos Eisteddfod yr Urdd yn un o’r wythnosau mwyaf eiconig i blant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru.
Ond gan ein bod ninnau nawr yn byw drwy gyfnod o ‘lockdown’ mae’r wyl, oedd i’w gynnal ar dir ger Dinbych yr wythnos nesaf, wedi ei ohirio am flwyddyn.
Fodd bynnag nid yw hynny am rwystro’r Urdd i gynnal un o ddigwyddiadau rhithiol mwyaf y wlad.
Mi fydd Eisteddfod T yn cael ei gynnal yn ystod wythnos arferol yr Eisteddfod, sef o ddydd Llun, Mai 25 hyd ddydd Gwener, Mai 29.
Bydd holl gystadlu Eisteddfod T i’w gweld ar S4C yng nghwmni’r cyflwynwyr Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris, fydd yn darlledu yn fyw o stiwdio sydd wedi ei osod yn arbennig ar gyfer yr wythnos yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd.
Bydd y ddarpariaeth yn dechrau yn ddigidol bob dydd am hanner dydd ar S4C Clic, gyda rhaglenni byw i ddechrau ar S4C am 4pm bob prynhawn, a rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos am 8pm.
“Mae hi am fod yn Eisteddfod gwbl wahanol!” meddai Heledd Cynwal, sy’n gyfarwydd iawn â chyflwyno o faes Eisteddfod yr Urdd.
Ychwanegodd: “Mae Eisteddfod T am fod yn arloesol. Mae’r Urdd yn fudiad sy’n wych am fachu ar bob cyfle, maen nhw’n flaengar iawn ac yn meddwl ymlaen trwy’r amser. Yn dilyn y siom o orfod gohirio’r Eisteddfod eleni, maen nhw wedi neidio ar y cyfle i greu rhywbeth mentrus a phositif iawn.
“Mae’r wythnos am fod yn arbrawf hynod gyffrous, a fi ffili aros! Yn enwedig gan fod tri o blant gen i sydd wedi bod yn paratoi at y cystadlaethau o gytre.’ Er gwaetha’r amgylchiadau, mae’r Urdd yn profi bod ffyrdd o gwmpas pethau a bod modd bod yn greadigol drwy hyn i gyd. Mae nhw wedi llwyddo i neud e ‘to!”
Yn wahanol i Eisteddfod arferol does dim maes, dim llwyfan, dim pafiliwn, na chwaith dim rhagbrofion - ond Eisteddfod sy’n dibynnu’n llwyr ar dechnoleg. Gyda llond lle o destunau, mae’r cystadleuwyr wedi bod yn brysur yn creu campweithiau.
Yn ogystal â chystadlaethau traddodiadol fel cerdd dant a chorau, mae cystadlaethau eraill mwy anffurfiol i’w gael yn Eisteddfod T dynwared, lip-sync a chystadlaethau i’r teulu i gyd... a hyd yn oed anifeiliaid anwes!
“Pan ges i’r alwad am Eisteddfod T, o’n i’n meddwl fod o’n briliant!” meddai Trystan Ellis-Morris, sy’n wreiddiol o Ddeiniolen, ond sydd bellach yn byw yn Llundain.
“Y plant fwy na neb oedd am weld y golled fwyaf o orfod gohirio’r Eisteddfod. Ma’ nhw wedi gweithio mor galed tuag at Eisteddfod Dinbych - nid jysd wythnos o waith ymarfer, ond misoedd! Felly ma’n wych bo’ ganddyn nhw rywbeth i edrych ymlaen ato ddiwedd mis Mai.
“Dwi wrth fy modd yn gweld bod Eisteddfod T yn agor y drws i gystadlaethau amgen ac ysgafn hefyd. Dyna ‘da ni gyd isio yn ganol y cyfnod ansicr hwn ydi bach o hwyl!
Mai am fod yn ‘Steddfod hollol unigryw,” dywedodd.
Wrth ffilmio o’r stiwdio ym Mae Caerdydd, mi fydd y criw cynhyrchu a Trystan a Heledd yn parchu’r rheolau pellhau cymdeithasol.
“Ma’ Heledd yn un o’n ffrindiau gorau i,” ychwanegodd Trystan, “felly yn reddfol, y peth cynta’ fyddai isio neud pan welai hi fydd rhoi hyg mawr iddi! Ond wrth gwrs, fyddai methu, a fydd hynna’n rhyfedd. Ond dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy i’w gweld hi a chyflwyno ochr yn ochr.
“Ma’ darlledu’n fyw yn ystod y cyfnod ‘ma am fod yn brofiad anghyfarwydd a hollol newydd i bawb, Fel arfer efo’r ‘Steddfod, ma’ gen ti gymaint o lefydd i fynd efo’r camera - y maes, y pafiliwn neu gefn llwyfan... mai am fod yn wahanol iawn tro ‘ma. Pwy a ŵyr be’ sydd o’n blaena’ ni!”
Eisteddfod T
Nos Sadwrn, Mai 23, 8pm, S4C Dydd Llun i ddydd Gwener, 25 – 29 Mai, 12-2pm, S4C Clic
Dydd Llun i ddydd Gwener, 25 – 29 Mai, 4pm-6pm, S4C
Dydd Llun i ddydd Gwener, 25 – 29 Mai, 8pm, S4C
Isdeitlau Saesneg ar gael