Crwydro heb fynd oddi cartref
YN fy ngholofn ar ddechrau’r flwyddyn gwnes eich annog i gerdded o gwmpas eich bro pan fo cyfle, yn hytrach na neidio mewn i’r car. Ychydig a feddyliais cymaint o gyfle fyddai gan bawb i fynd i gerdded. Ni fu ein ceir erioed mor segur ag yn ystod cyfnod clo Covid-19.
Yn ystod taith gerdded ddiweddar, fe’m tynnwyd i mewn i fynwent Eglwys Sant Cynwyl. Mae’n eglwys hardd, yn adeilad cofrestredig ac o’i chwmpas mae mynwent dwt, gyda’r Afon Duad yn llifo o’i chwmpas.
Wrth dalcen pellaf yr eglwys, daliodd un garreg fedd fy llygad - yn rhyfedd ddigon roedd pedwar penglog syml wedi eu cerfio ar bedwar cornel y garreg wastad. Wrth fynd i astudio’r garreg dyma synnu gweld ei bod bron yn dri chant mlwydd oed, ac felly’n un o’r beddi hynaf yn y fynwent.
Thomas Howell, a anwyd ar Fai’r 9fed, 1676, a gladdwyd yno, ac mae manylion y garreg yn hynod ddiddorol. Bu Thomas fyw am 45 o flynyddoedd, a chael bywyd ‘unblemisht, innocent, good’. Mae pennill aneglur ar waelod y garreg a rhybudd: ‘Cursed be ye mover of my Bones’. Serch hynny, y diddordeb pennaf i mi oedd disgrifiad o linach ei dad, Humphrey Howell: ‘from the ancient Princes of Carnarvan’. Wel, dyma orffen y wâc a mynd adre am y cyfrifiadur i gael chwilio mwy.
Wrth dwrio, dyma weld bod Humphrey Howell yn ‘gentleman’ o blwyf Cynwyl Elfed, ac mae rhai o’i ddogfennau personol ar gof a chadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yna, dyma ddigwydd dod ar draws cofnod o ‘Early Welsh Howell Bible’ ar wefan hel achau. Yn y fan honno, roedd gwraig o Galiffornia wedi rhannu manylion teuluol oedd ganddi mewn Beibl a argraffwyd yn 1630. A phwy sy’n cael ei nodi yn achau’r teulu? Ein Thomas Howell ni a gladdwyd yng Nghynwyl, nai i berchennog gwreiddiol y Beibl.
Mae cofnodion y Beibl yn nodi enwau cyfarwydd o ardal Cynwyl, megis ‘Trualypwll’, ‘Brynykirch’ a ‘Llethermoel’. Nodir bod James Howell, wncwl oedd yn byw yn ‘Llethermoel’, wedi boddi mewn afon yn 1679; ac yn nes ymlaen mae bachgen ifanc o’r enw Benjamin Howell hefyd yn boddi, wrth nofio rhwng y Gwili a’r Tywi ar Ddydd Gwyl Ifan, 1720.
Nodir enwau dau o enwogion y teulu yn y Beibl hefyd. Thomas Howell (un gwahanol i’r un a gladdwyd yn Eglwys Sant Cynwyl), ddaeth yn Esgob Bryste yn 1644; a’i frawd James Howell, a benodwyd yn hanesydd brenhinol i Siarl y Cyntaf ym 1661. Wrth ymchwilio i hanes y ddau frawd nodedig, dyma ddarganfod wedyn eu bod yn ddisgynyddion i Rhodri Mawr, Brenin Gwynedd, Powys a Deheubarth, fu farw yn 877 (a thad-cu i Hywel Dda). Esboniad felly o’r cyswllt rhwng y teulu Howell a thywysogion ‘Carnarvan’.
Roedd y brodyr enwog, Thomas a James, yn feibion i Thomas Howell (un arall!), ddaeth yn rheithor Cynwyl ac Abernant tua 1589. A dyna esbonio sut ddechreuodd y cyswllt rhwng plwyf Cynwyl Elfed a’r teulu Howell.
O Gynwyl Elfed i Gaernarfon, Bryste, Llundain, Califfornia… pwy fyddai’n meddwl bod modd mynd mor bell wrth aros gartref?!