Gelli Aur a Deheudir Affrica
FE ddaeth gwr ifanc du o Ddeheudir Affrica i astudio yng Ngholeg Gelli Aur, Caerfyrddin yn Hydref 1971. Tybed faint o’i gyd-fyfyrwyr bryd hynny sy’n cofio Kobamelo Dintwa?
Mae llun ohono hefyd gyda rhai o ddynion ifanc ardal Llanedi yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd.
Roedd nifer o bobl ardal yr Hendy a Phontarddulais a mannau eraill wedi cyfrannu tuag at rai o dreuliau Cwrs Amaeth y myfyriwr o wlad Botswana.
Erbyn diwedd y flwyddyn coleg roedd Kobamelo yn barod i argymell i wr ifanc arall o wlad Botswana ddod i astudio Amaeth yng Nghymru. Yn dilyn Kobamelo fe ddaeth Otsogile Pitso oedd yn gweithio yn yr un Ganolfan.
Cafodd y ddau fyfyriwr o Botswana groeso twymgalon gan deuluoedd yn ardal Llangennech a Phontarddulais ac ardaloedd ar draws Cymru.
Daeth hyn i gof gyda’r trafod sydd ynglyn a hiliaeth a hanes y fasnach caethweision.
Yn saithdegau’r ganrif ddiwetha roedd sustem apartheid De Affrig [y wlad nesa at Botswana] yn para i ormesu’r bobol ddu.
Ces gyfle i ail-gyfarfod Otsogile Pitso ym Motswana yn 2007 ar achlysur Aduniad Penblwydd myfyrwyr yr Ysgol Ffermio yno. Yno hefyd yn annerch roedd sylfaenydd yr Ysgol Amaeth a’r Ganolfan Ddatblygu enwog sef Patrick van Rensburg. Mae Patrick yn arwr i’r bobol yma fel i ninnau ac i addysgwyr yn ryngwladol.
Mae’na lyfr newydd i’w gyhoeddi y mis yma am Fywyd a Gwaith arloesol Patrick van Rensburg.
Un o Dde Affrig oedd Patrick yn wreiddiol ond cafodd ei wraig Liz ei magu yn Llanddona, Ynys Môn. Teitl y llyfr yw ‘Patrick van Rensburg Rebel, Visionary and Radical Educationist’ a’r awdur yw Kevin Shillington.