Stori annibyniaeth Croatia’r 90au yn ysbrydoli nofel
STORI serch sydd â rhyfel a gwarchae ar Dubrovnik yn gefnlen iddi yw’r nofel Perl (Y Lolfa) ag ysgrifennir gan Bet Jones. Yn ôl yn haf 1990, ychydig feddyliodd Nia, un o brif gymeriadau’r nofel, y byddai ei phenderfyniad i fynd ar ei gwyliau i Iwgoslafia yn cael effaith bellgyrhaeddol ar weddill ei bywyd hi a’i theulu.
Yn ystod yr haf hwnnw roedd cymylau bygythiol yn dechrau crynhoi ar y gorwel fyddai’n arwain at Groatia annibynnol. Yng nghanol y berw, daw un cyfarfyddiad â goblygiadau aruthrol i deuluoedd o Groatia i Gymru.
A ninnau’n profi twf mewn cefnogaeth i annibyniaeth yma yng Nghymru heddiw, mae’n ddifyr edrych yn ôl ar daith gwlad arall i gyrraedd y nod. Meddai Bet: “Wrth fynd ati i ysgrifennu’r nofel, roeddwn yn ymwybodol fod y diddordeb mewn annibyniaeth i Gymru yn cynyddu gydag ymgyrchoedd fel Cofiwch Dryweryn a Yes Cymru ac roeddwn yn awyddus i ddod â pheth o hynny i mewn i’r stori yn ogystal â bygythiad Brexit i’n perthynas â gwledydd Ewrop i’r dyfodol.”
Mae gan Bet Jones ddiddordeb ysol yn hanes Croatia ac mae wedi ymweld â’r wlad sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal mae wedi darllen sawl llyfr am hanes Rhyfel y Balcans a chwymp Iwgoslafia. Ond cyfaddefa Bet nad oes dim fodd bynnag yn paratoi rhywun at “y golygfeydd trawiadol o sgerbydau hen westai oedd wedi eu gadael i ddirywio ar hyd yr arfordir o amgylch Dubrovnik ers cyfnod y rhyfel.”
Manyla ar yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r nofel: “Pan ddaeth cyfle i fynd i fyny i’r amgueddfa sy’n cofnodi hanes gwarchae Dubrovnik sydd wedi ei leoli yn yr union adeilad uwchben y ddinas, lle bu’r llond llaw o warchodwyr yn gwrthsefyll yr ymosodiadau, fe gynyddodd fy niddordeb. Er i mi gael yr hanes yn fras gan ambell i dywysydd, doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn dramwyo drwy holi pobl leol am eu hatgofion a’u profiadau o’r rhyfel. Yna, yn ystod un ymweliad â phentref bychan Cilipi roeddwn wrthi’n darllen plac yn yr eglwys oedd yn adrodd hanes ymosodiad lluoedd Serbia a Montenegro ar y lle, pan ddaeth gwraig leol ganol oed ataf a gofyn a fuaswn yn hoffi clywed mwy o’r hanes. Awr yn ddiweddarach, gadewais yr eglwys a fy mhen yn llawn o’i disgrifiadau o’i phrofiadau dirdynnol a gwyddwn fod yn rhaid i mi geisio ail adrodd ei hanes. Dim ond gobeithio nad wyf wedi gwneud cam â hi!”
Ganed Bet Jones ym mhentref Trefor ond mae hi bellach yn byw yn y Bontnewydd ger Caernarfon. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013 am ei nofel Craciau. Cyhoeddodd bedair nofel arall, sef Beti Bwt, Gadael Lennon, Y Nant a Cyfrinach Craig yr Wylan. Bydd cyfran o arian gwerthiant y gyfrol yn mynd i Yes Cymru.
Mae Perl gan Bet Jones ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).