Carmarthen Journal

Achos newydd cyffrous i dditectif Taliesin Macleavy

-

MAE’R ditectif Taliesin MacLeavy yn ôl – gydag achos newydd a phartner newydd - mewn dilyniant hir ddisgwylie­dig gan yr awdur Alun Davies. Mae Ar Lwybr Dial (Y Lolfa) yn dilyn y nofel hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd, ac yr ail mewn trioleg. Fel y cyntaf, mae’r ddirgelwch wedi’i leoli yn ardal Aberystwyt­h ac mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledi Scandi, sy’n parhau i fod yn boblogaidd ledled y byd.

Mae Richard Harrington, oedd yn portreadu Ditectif Mathias yn y gyfres Y Gwyll ar S4C (ac Hinterland ar y BBC), sydd hefyd wedi’i leoli yn ardal Aberystwyt­h, wedi canmol Ar Lwybr Dial gan ei disgrifio fel “nofel sy’n werth colli cwsg drosti.”

“Mae dylanwad fy magwraeth yn Aberystwyt­h yn gryf yn fy nofelau i – rydw i’n credu y gall y lleoliad fod fel cymeriad ychwanegol mewn storïau, a mae canolbarth Cymru yn cynnig cymaint o ran tirlun, hanes a diwylliant. Rwy hefyd yn rhedwr brwd, a mi fydda i’n treulio’r amser hynny yn datrys elfennau o’r stori yn fy meddwl – rydw i’n siwr y byddai fy llyfrau i’n wahanol iawn petawn i wedi treulio f’amser i gyd yn eistedd ar bwys desg,” meddai Alun Davies.

Yn Ar Lwybr Dial mae Taliesin yn cael ei bartneru gyda Siwan Mathews, ditectif profiadol sydd newydd ddychwelyd i’w gwaith ar ôl sawl blwyddyn yn magu teulu ifanc. Eu hachos cyntaf ydy ymchwiliad i sawl lladrad ym mhentref Y Borth. Mae’r ddau dditectif yn dod o hyd i gyrff hen gwpwl, wedi’u lladd yn eu cartref. Yn benderfyno­l o ddal yr un sy’n gyfrifol cyn i fwy farw, maen nhw’n mynd ati i chwilio i gefndir tywyll y pâr priod, cyn i dro yn y stori weld y llofrudd yn cysylltu gyda Taliesin a’r ditectif yn gorfod chwilio am atebion ynddo’i enaid ei hun. Wedi ei hadrodd o safbwynt Taliesin a Siwan, mae’r ddirgelwch gyffrous yn mynd â’r darllenwr ar daith lawn amheuon, cyfrinacha­u a llofruddia­ethau erchyll.

“Rwy wedi bod yn gweithio ar stori’r ail nofel ers cyn i mi orffen Ar Drywydd Llofrudd ’nôl yn 2018. Mae’n wefr wahanol i ddatgelu stori newydd tra’n datblygu mwy ar yr un cymeriadau. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael adborth da wrth nifer o ddarllenwy­r y nofel gyntaf, a mi oedd yn bendant yn deimlad rhyfedd i ysgrifennu’r nofel hon gan wybod bod sawl un yn disgwyl amdani,” meddai Alun.

Canmoliaet­h ar gyfer Ar Drywydd Llofrudd: “Mae holl nodweddion arferol Scandi-noir wedi eu plethu at ei gilydd yn y nofel hon mewn ffordd gywrain a chyfrwys hefyd. Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dw i’n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf.” - Tweli Griffiths, Western Mail Weekend

“Nofel seicolegol, tywyll, sy’n rhoi pwyslais ar greu awyrgylch ac edrych o dan yr wyneb yw’r rhain ac mae Alun Davies yn grefftus iawn yn creu’r ymdeimlad hwn.... Mae’n chwip o nofel gyntaf, sy’n cyrraedd diweddglo brawychus, ac roeddwn wedi llyncu abwyd y stori’n llwyr gan fwynhau’r ochr seicolegol a dod yn hoff iawn o’r ddau brif gymeriad.” - Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn

“Ro’n i wedi pasa ei darllen yn hamddenol, ond allwn i ddim. Roedd yn rhaid i mi ddal ati, gan anghofio fy ngwaith sgwennu a gwaith ty.” - Bethan Gwanas

Mae Alun Davies yn beiriannyd­d meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghori­aeth ei hun – Deeg Consultanc­y – yn cynnig gwasanaeth technoleg y we a chyfryngau cymdeithas­ol. Cafodd ei eni a’i fagu yn Aberystwyt­h cyn symud i Lundain am ddeng mlynedd. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae yna wefan arbennig i’r nofel, sef www. ardrywyddl­lofrudd.co.uk.

Mae Ar Lwybr Dial gan Alun Davies ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom