ADAM YN YR ARDD
HELO bawb, wel mae gwyliau ysgol wedi cychwyn yn swyddogol, felly digon o amser i fwynhau crwydro o amgylch rhai o erddi hyfrytaf Cymru, neu botsian yn yr ardd.
Yr wythnos ddiwethaf, bues i’n ddigon ffodus i ymweld â’r Ardd Fotaneg am y tro cyntaf ers oes yr arth a’r blaidd (wel dyna pa mor bell nôl, mae Ionawr yn teimlo erbyn hyn).
Mae’r Ardd Fotaneg yn le hyfryd i fynd gyda’r teulu cyfan, p’un a ydych yn hoffi garddio ai peidio! Mae gymaint i’w wneud ac i’w weld yno, a hynny ar stepen ein drws.
Pan oeddwn yn yr Ardd, bues i’n ffilmio eitem fach yng ngardd Prosiect Tyfu’r Dyfodol.
Prosiect pum-mlynedd i ddathlu garddwriaeth Cymru, i ddiogelu bywyd gwyllt ac i bwysleisio holl fanteision tyfu planhigion – i’w bwyta, i roi hwyl inni ac i gyfrannu at ein lles a’n hiechyd yw prosiect Tyfu’r Dyfodol.
Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn cydweithio â’r prosiect i rannu sesiynau garddio syml i annog mwy ohonom i droi at ein gerddi a’n mannau agored. Mae gymaint o ddaioni i’w gael wrth dreulio ychydig o amser yn yr awyr agored.
Pa le gwell felly i fynd am dro ac i fusnesu nag ymweld â’r Ardd Fotaneg yn ystod mis
Awst? Pan fyddwch yno, cofiwch alw heibio Gardd Tyfu’r Dyfodol, wrth ochr yr Ardd Ddeu-fur. Cewch lwyth o syniadau ar sut allwch chi ddatblygu’ch gerddi chi - o gychod gwenyn i bwll natur gwyllt.
Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan – garddfotaneg. cymru, dilynwch @GTFCymru neu gofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol trwy anfon e-bost at gtf@ gardenofwales.org.uk.
Gobeithio y cewch chi gyfle i fwynhau’r ardd yn ystod yr wythnosau nesaf a chofiwch, gallwch gysylltu â mi trwy ddilyn @adamynyrardd ar Facebook, Instagram neu YouTube.