Carmarthen Journal

Theatr Genedlaeth­ol Cymru a Mentrau Iaith Cymru yn cyhoeddi clwb perfformio i blant Cymru dros yr haf

-

MAE Theatr Genedlaeth­ol Cymru a Mentrau Iaith Cymru yn falch o gyhoeddi heddiw eu bod yn gweithio mewn partneriae­th i gyflwyno Clwb Theatr Cymru er mwyn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd creadigol a hybu sgiliau perfformio i blant ledled Cymru dros yr haf.

Bydd Clwb Theatr Cymru yn dod â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom yn ystod gwyliau’r haf. Bydd y sesiynau – sy’n cael eu trefnu gan Theatr Genedlaeth­ol Cymru ac yn cynnwys cyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau – yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoed­d 2 i 6.

Bydd yr arbenigwyr sy’n arwain ar yr hwyl yn cynnwys Jalisa Andrews, Ffion Wyn Bowen a Sian Elin. Mae pob Menter Iaith ar draws Cymru yn rhan o’r cynllun, a bydd ymgyrch i ddenu cyfranogwy­r o bob ardal dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim, ond bydd angen cofrestru trwy’r Fenter leol. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg; os oes unrhyw anghenion penodol, bydd y ddau gwmni hefyd yn eu diwallu.

Ers nifer o flynyddoed­d, mae Theatr Genedlaeth­ol Cymru wedi gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru i ddarparu Clybiau Drama bob wythnos. Yn ystod y clo mawr, mae’r cwmni wedi bod yn cynnal sesiynau Zoom bob wythnos gyda phlant yn ardaloedd Sir Gaerfyrddi­n, Ceredigion a Sir

Benfro. Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni weithio mewn partneriae­th â Mentrau Iaith Cymru i ddod â’r holl fentrau ledled Cymru ynghyd a darparu gwaith cyfranogi ar y raddfa hon.

Dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchyd­d Gweithredo­l Theatr Genedlaeth­ol Cymru: “Ry’n ni’n falch iawn o gael cyfle i gydweithio’n genedlaeth­ol gyda Mentrau Iaith Cymru a chefnogi eu hawydd nhw, a’n hawydd ninnau, i roi cyfleoedd i blant ifanc ar draws Cymru ddod at ei gilydd dros wyliau’r haf i gymdeithas­u gyda chyfoedion a chael hwyl yn y Gymraeg wrth ddysgu sgiliau celfyddydo­l newydd gyda thîm o arweinwyr ifanc a thalentog iawn.”

Meddai Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: “Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru wedi bod yn brysur iawn yn cynnig pob mathau o gyfleoedd i bobl o bob oed allu defnyddio eu Cymraeg yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Rydym wedi llwyddo i wneud hyn drwy gyfrwng technoleg gan ganiatáu i filoedd o bobl ddefnyddio’r iaith mewn amryw o glybiau, dosbarthia­dau a gwyliau. Rydym yn falch dros ben o allu cydweithio â Theatr Genedlaeth­ol Cymru sydd hefyd wedi arloesi gyda chynyrchia­dau gwych dros y misoedd diwethaf. Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn gallu cynnig y cyfle arbennig hwn i blant Cymru ymarfer eu creadigrwy­dd dros yr haf.”

Mae Clwb Theatr Cymru yn rhan o raglen Pawb Ar-lein Theatr

Genedlaeth­ol Cymru, sef rhaglen o weithgared­dau addysg a chyfranogi ar blatfforma­u digidol er mwyn ysbrydoli plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod o gyfyngiada­u symud.

Mae Theatr Genedlaeth­ol Cymru hefyd yn cynnig dwy elfen arall i’w rhaglen yn ystod y cyfnod hwn:

■ Theatr Gen Eto: Dyma gyfle i gynulleidf­aoedd fwynhau cynyrchiad­au’r gorffennol ar sgrin tra bod ein theatrau ar gau. Gan ryddhau cynnwys o’i archif helaeth, bydd y cwmni’n rhannu nifer o’i gynyrchiad­au o’r gorffennol ar ei sianel YouTube a hefyd ar blatfform digidol AM (ar-lein ar amam. cymru neu drwy lawrlwytho’r ap ar amam.cymru/ambobdim). Bydd capsiynau caeedig (neu is-deitlau) Saesneg a Chymraeg ar gael yn achos bron y cyfan o’r dangosiada­u hyn.

■ Creu Ar-lein: Rhaglen newydd o waith dramatig gwreiddiol gan y cwmni yn ystod argyfwng y coronafeir­ws. Mae’r cwmni eisoes wedi cyhoeddi prosiectau ar y cyd â National Theatre Wales (Comisiynau Digidol Newydd), BBC Cymru (Dramâu Micro) ac Urdd Gobaith Cymru (Sgidie, Sgidie, Sgidie) fel rhan o’r rhaglen hon, ac mae rhagor o waith ar y gweill.

Bydd Theatr Genedlaeth­ol Cymru yn cyhoeddi cynlluniau a gweithgare­ddau pellach fel rhan o Theatr Gen Eto, Creu

Ar-lein a Phawb Ar-lein dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod. ■ theatr.cymru @TheatrGenC­ymru ■ mentrauiai­th.cymru @MentrauIai­th

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom