Carmarthen Journal

Llyfr coginio newydd yn dathlu’r lleol, y tymhorol, y cynaliadwy a’r Cymreig

-

YN ystod y cyfnod dan glo, daeth coginio i’r amlwg fel diddordeb cynyddol boblogaidd a ffordd o ymlacio yng nghanol amser gofidus. Fe welwyd pwyslais hefyd ar bwysigrwyd­d cefnogi siopau bwyd lleol, ac fe ddaeth y siopau hyn yn “hafan hanfodol”, yn ôl Nerys Howell, arbenigwra­ig ar y diwydiant bwyd ac awdures llyfr coginio dwyieithog newydd.

Mae’r gyfrol goginio Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season (Y Lolfa) yn llawn ryseitiau traddodiad­ol a chyfoes wedi’u creu gan Nerys Howell, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr Prynhawn Da ar S4C. Mae’r gyfrol yn dathlu bwyd Cymreig lleol ac yn annog pobl i fwyta’n dymhorol ac yn gynaliadwy.

Meddai Nerys: “Mae bwyta deiet sy’n llawn cynnyrch lleol yn bwysig i ni yn gorfforol, i’n cymunedau ac i’r byd yn gyffredino­l. Er mwyn gwireddu hyn mae angen newid y ffordd rydym ni’n meddwl am fwyd. Yn lle prynu’r hyn sy’n gyfleus mae angen edrych ar beth sydd ar ei orau ar adegau arbennig o’r flwyddyn. Mae afalau ar gael o Awst i Ionawr, mefus a thomatos o Fai i Fedi, a digonedd o fresych, winwns a thatws drwy’r flwyddyn. Mae blas y cynnyrch yma llawer yn well pan maent yn cael eu mwynhau o fewn y tymor cynhaeaf priodol!”

Mae Nerys Howell yn berchen ar gwmni bwyd Howel Food Consultanc­y, ac mae ganddi flynyddoed­d o brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd, diod a lletygarwc­h ac mae wedi teithio i bedwar ban byd i hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru. Meddai Nerys:

“Wedi dychwelyd i Gymru dros ugain mlynedd yn ôl fe drawodd fi nad ydym fel cenedl yn clodfori cynnyrch ein gwlad, ac rwy wedi bod yn canolbwynt­io ers hynny ar rannu ein cyfrinach. Rwy’n teimlo’n angerddol am safon a dewis ein cynnyrch yma yng Nghymru ac yn awyddus i ledaenu’r neges bod gennym y cynnyrch gorau!”

Mae’r gyfrol yn llawn lluniau arbennig y ffotograff­ydd Phil Boorman, sy’n cyd-fynd yn wych gyda ryseitiau maethlon a blasus Nerys. Mae’r ryseitiau yn addas ar gyfer dechreuwyr a chogyddion profiadol ac yn cynnig syniadau fydd yn cynnig pleser, boddhad ac wrth gwrs bwyd da.

Ysgrifenwy­d y Rhagair gan y ffermwr a’r cyflwynydd teledu Gareth Wyn Jones. Meddai Gareth: “Fel ffermwr, rwy’n hynod o falch fod Nerys yn canolbwynt­io ar fwyd lleol, tymhorol a chynaliadw­y yn ei chyfrol newydd. Mae’r prydau yn y llyfr gwych hwn yn ddathliad o’r dewis o fwydydd a’r safon sydd ar gael i ni yng Nghymru. Wrth gyrchu bwyd lleol rydym yn cael blas unigryw ar ardal arbennig, boed yn fenyn, yn gaws, yn gig neu’n win. Gobeithio y gwneith y llyfr yma ffrwythlon­i eich pleser mewn bwyd a choginio, ac annog ambell un i brynu yn lleol a thymhorol ac i dyfu bwyd mewn ffordd gynhaliol, amgylchedd­ol ac iach.”

Gobaith Nerys Howell yw y bydd y gyfrol hefyd yn cyfrannu at ddatrys sialensau ehangach wrth edrych i’r dyfodol: “Gobeithio bod y llyfr yn gyfraniad tuag at y drafodaeth ehangach am ddyfodol y gadwyn fwyd yng Nghymru, pwysigrwyd­d deiet iach a gofynion dyfodol ein amgylchedd.” ■ Mae Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season gan Nerys Howell ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom