Drych yr Amseroedd
MAE’N amser rhyfedd iawn! Ac mae’n anodd gweld beth all ddigwydd yn y dyfodol i’r ddynoliaeth gyfan, ac i ni yn y rhan fach hon o’r byd. Yn ôl nifer o wyddonwyr a phobl sydd yn poeni am ddyfodol y ddaear mae’r argyfwng hinsawdd yn dwyshau ar raddfa gynyddol gyflym, a bron nad yw eisoes yn rhy hwyr i atal y catastroffi sydd yn bygwth ein plant a’n hwyrion.
Fe wnaeth y pla Covid 19 dynnu sylw arweinwyr gwledydd y byd a’i ddargyfeirio oddi ar y bygythiad enfawr i’n harfordiroedd wrth i lefel y môr godi. Gwelwyd yn ddiweddar fod un o rewlifoedd anferth gorllewin yr Antartig yn dadmer yn llawer cynt na’r disgwyl oherwydd fod afonydd o ddwr cynhesach yn ei danseilio. Bu gorchudd o iâ dros yr Antartig ers tua 34 miliwn o flynyddoedd medd yr arbenigwyr, ac mae rhewlif Thwartes yr un maint ag ynys Prydain yn cynnwys digon o ddwr wedi’i gloi yn yr iâ i godi lefel y môr mwy na hanner medr pe bae’n toddi i gyd. Dywed y gwyddonwyr fod y broblem mor anferth fel nad oes modd iddynt rwystro lefel y môr rhag codi. Bydd hyn yn effeithio ar nifer o arfordiroedd, dinasoedd a chymunedau gan gynnwys Caerdydd, Llundain ac Efrog Newydd. Dywedant fod angen paratoi a rhoi cynlluniau mewn lle i warchod y poblogaethau niferus sydd yn yr ardaloedd hyn.
Yng Nghymru, mae tonnau o fath gwahanol yn bygwth boddi ein cymunedau glan môr a chefn gwlad yn gyffredinol. Daw ton ar ôl ton o gymudwyr di-gymraeg i foddi ein hiaith a’n diwylliant cynhenid. Gan fod cymaint o bobl yn y dinasoedd a threfi mawr wedi gweld y gwerth o gael cartrefi, neu ail a thrydydd cartref, yn ein hardaloedd prydferth maent yn heidio i brynu ein cartrefi, ac yn aml yn cynnig llawer mwy am eiddo na’i wir werth yn eu hawydd i feddiannu tai ac eiddo. Mae’n digwydd, nid yn unig mewn llefydd anghysbell, ond yng nghanol ein pentrefi a’n cymunedau. Ceir adroddiadau hefyd am gwmniau gwerthu tai yn ceisio annog pentrefwyr i roi eu cartrefi ar y farchnad am fod y prisiau wedi codi cymaint yn sgil yr argyfwng Covid 19. Dyma wir fygythiad i’n hunaniaeth a’n cenedl ni, y genedl y mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros ei gwarchod. Pwy wnaiff amddiffyn ein hetifeddiaeth os na wnawn ni?
Rhaid i ni feddwl a gweithredu a pharatoi ar gyfer yr argyfyngau sy’n wynebu’r ddynoliaeth gyfan; ond rhaid i ni hefyd weithredu i warchod ein rhan fach ni o’r ddynoliaeth gan fod colli ein hanes, ein hunaniaeth a’n diwylliant ni yn golled i’r ddynoliaeth gyfan. Mor braf yw gweld y cynydd yn y nifer o bobl Cymru sydd am weld y Senedd yn cael mwy o rym dros ein bywyd cenedlaethol a’r symudiad sylweddol tuag at annibyniaeth i Gymru. Mae ein dyfodol yn ein dwylo ni a rhaid parhau i frwydro a lledu’r slogan ar draws ein gwlad “NID YW CYMRU AR WERTH”.