Carmarthen Journal

Coffi yn ein ceir!

-

AM yr unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol cynhaliwyd Bore Coffi Macmillan yr Ofalaeth ar Fore Gwener, Medi 25 – ar ddiwrnod dathlu Bore Coffi Mwya’r Byd!

Roedd y trefniadau’n wahanol i’r arfer y tro hwn. Maes Parcio’r Cwins yn Abergwili oedd y Ganolfan a choffi a bisgïen / teisen yn ein ceir ac nid wrth y byrddau yn Festri’r Priordy a gafwyd. Ond yr un oedd y brwdfryded­d a’r hwyl! Diolch i Alison Parsons am beidio â rhoi’r ffidil yn y to am eleni a meddwl yn hytrach am ffyrdd dychmygus – ond cyfreithio­l – o ddod dros yr anawsterau presennol a achosir gan y pandemig er mwyn parhau i gynnal y bore arbennig hwn.

Wrth y fynedfa i’r maes parcio roedd llygaid barcud Lyn Jones yn cadw golwg ar bethau ac yn sicrhau bod pawb yn bacio’n ôl a pharcio’n deidi gan gadw pellter cymdeithas­ol! Yno hefyd roedd ein Gweinidog gyda’i phad ysgrifennu’n cofrestru presenolde­b pob un ohonom.yn gydwybodol iawn.

A phleser oedd cael gwragedd ifanc yr Ofalaeth i weini arnom yn ein ceir – pob un ohonynt mor groesawgar a gofalus wrth eu gwaith.

Ar bob cwpan roedd rhif ar gyfer y raffl a hwnnw’n cael ei dynnu’n ddigidol! Oedd, roedd trefn ar bethau, rhaid dweud. Croesawyd y Cynghorydd Gareth John, Maer ein Tref a’i briod Clare atom gan ein Gweinidog.

Gareth yw maer digidol cyntaf Caerfyrddi­n – y cyntaf i’w urddo mewn cyfarfod Zoom!

Cafwyd geiriau perthnasol ganddo ac apeliodd arnom i sefylll yn lleol ac i siopa’n lleol.yn ystod y cyfnod heriol hwn Diolchwyd iddo am ei rodd garedig hefyd at yr elusen. Codwyd dros £1,000!

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom