Menter Gorllewin Sir Gâr
GYDA’R cyfyngiadau wedi tynhau eto yn dilyn cynnydd yn y nifer o achosion o Covid 19 yn lleol, hyfryd oedd gallu cynnig nifer o weithgareddau dros Zoom yn ystod yr Wyl.
Gweithdy Creu Torch Nadoligaidd gyda Wendy, Blodau Blodwen
Ar nos Fawrth, Ragfyr 2, daeth criw ynghyd ar Zoom i greu torchiau Nadolig o dan arweiniad arbenigol Wendy o Blodau Blodwen. Hyfryd oedd gallu cynnal noson gymdeithasol i allu codi ysbryd a hwyl yr wyl yn ystod cyfnod mor ansicr.
Roedd cynnyrch pawb yn edrych yn arbennig erbyn diwedd y noson, ac yn sicr roedd drysau ffrynt nifer o dai yng Ngorllewin Sir Gâr wedi’u haddurno’n hyfryd o ganlyniad i’r weithgaredd yma. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Wendy am arwain y noson mor glir, ac am ei gwaith yn paratoi y pecynnau cyn y noson.
Groto Siôn Corn
Dros dau benwythnos bu plant Gorllewin Sir Gâr yn cwrdd â, ac yn sgwrsio gyda Siôn Corn dros Zoom. Roedd y teuluoedd yn fwrlwm i gyd i gael holi Siôn Corn am ei drefniadau ac i gael esbonio pa anrhegion neu beth yn union hoffen nhw ei gael y Nadolig hwn. Diolch am ymuno gyda ni a gobeithio fod pawb wedi mynd i’w gwely’n gynnar ar noswyl Nadolig ac y daeth Siôn Corn â digon o lawenydd i’ch cartrefi.
Cyd-goginio Nadoligaidd gyda Lisa Fearn, Y Sied
Ar nos Wener, Ragfyr 18, croesawyd nifer o bobl dros Zoom i gyd-goginio Pei gyda chig, saws llugaeron a stwffin cartref. Lisa Fearn sy’n rhedeg Ysgol Goginio Pumpkin Patch a pherchennog Y Sied oedd yn arwain y noson ac yn rhoi cynghorion defnyddiol a chyfarwyddiadau clir i bawb ar sut i fynd ati i wneud eu pei.
Roedd y bwyd i gyd yn edrych yn fendigedig ac rwy’n siwr i’r holl gyfranwyr gael pryd hyfryd yn dilyn y gweithdy hwn. Diolch o galon i Lisa am roi o’i harbenigedd ac arwain y gweithdy i ni.
Hyfforddiant Digidol i Rieni
Rydym fel Menter wedi bod yn cynnig hyfforddiant digidol i rieni ar systemau’r plant sy’n cynnwys rhaglenni megis Teams, Google Classrooms, Google Drive a Hwb. Rydym yn awyddus i gydweithio gydag unrhyw ysgol fyddai’n hoffi cynnig yr hyfforddiant hwn i’w rhieni. Rydym hefyd yng nghanol ail rownd y Cwis Dim Clem. Mae ymateb y plant wedi bod yn wych a phawb yn frwdfrydig a chyffrous. Edrychwn ymlaen i orffen yr ail rownd a symud ymlaen at rownd derfynol MGSG. Bydd enillwyr y rownd derfynol yn cynrychioli’r Fenter yng nghystadleuaeth genedlaethol Mentrau Iaith Cymru.
Gweithgareddau’r Fenter
Mae gweithgareddau’r Fenter yn parhau lle mae cyfle i chi gymdeithasu a mwynhau:
■ Cadwch lygad am ein cystadleuaeth Ffotograffiaeth wythnosol ar y cyfryngau cymdeithasol.
■ Ffansi Coffi a Chlonc? Dewch i ymuno gyda ni dros Zoom am 10.30 ar fore dydd Iau.
■ Byddwn yn parhau gyda’n darpariaeth o eitemau difyr ac amrywiol megis Busnesan, Dod i Adnabod Gorllewin Sir Gâr, Tips Arbed Arian, Ionawr Iach ac wrth gwrs tips fydd yn Gwneud Bywyd yn Haws.
■ Bydd y Clwb Darllen a’r Clwb Darllen i Ddysgwyr yn dychwelyd ar ddiwedd Ionawr ac yn parhau i gyfarfod i drafod a chloncan dros Zoom.
■ Rydym yn gobeithio ail ddechrau ein Teithiau Bygi a Sesiwn Stori Sgiliau yn y flwyddyn newydd, cyhyd â bod rheolau’r llywodraeth yn caniatáu.
I weld ein hamserlen wythnosol ac i gadw llygad am weithgareddau eraill gweler ein gwefannau cymdeithasol:
■ Facebook / Gweplyfr: Menter Gorllewin Sir Gar
■ Instagram: @Mentergsg Twitter: @Mentergsg
You Tube: Menter Gorllewin Sir Gar
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, os ydych am gofrestru neu am fanylion pellach cofiwch gysylltu gyda ni ar alma@mgsg. cymru neu ymholiad@mgsg. cymru