Dod wyneb yn wyneb â llofrudd Sir Benfro
‘I am NOT a murderer!’ gwaeddodd y dyn gwyllt yr olwg ataf i a’r dyn camera ar risiau’r Llys Ynadon ar sgwâr Caerfyrddin wrth iddo lamu allan o gefn fan yr heddlu. Ionawr 1998 oedd hi, ac o gofio’r hyn ddatgelwyd flynyddoedd yn ddiweddarach, rown i’n falch bod John Cooper mewn cyffion pan wnes i gwrdd â fe.
Bydd pawb fu’n dilyn drama y Pembrokeshire Murders ar ITV yn gyfarwydd â hanes y dihiryn seicopathig yma. Yn fuan ar ôl i mi ei weld e wyneb yn wyneb, cafodd ei gyhuddo o ladrad arfog a nifer o achosion o ddwyn, a’i garcharu am 16 mlynedd. Bryd hynny, d’oedd dim digon o dystiolaeth i’w gysylltu â llofruddiaethau erchyll Richard a Helen Thomas yn Scoveston Park ger Aberdaugleddau yn 1985 a Peter a Gwenda Dixon ar lwybr arfordir Sir Benfro ar bwys Little Haven yn 1989 – er fod yr heddlu’n ei amau’n fawr. Llofruddiaeth Ddwbl 1 Deuddydd cyn y Nadolig yn 1985, bues i’n gohebu ar y llofruddiaeth ddwbl gyntaf. Ffermdy mawr tua chwarter milltir o’r ffordd fawr oedd Scoveston Park, a gafodd ei roi ar dân gan Cooper ar ôl iddo saethu’r brawd a chwaer canol oed oedd yn byw yno. Dim ond y muriau oedd yn weddill, a mwg yn dal i godi o’r adfail erbyn i mi gyrraedd. Bu chwilio mawr ac ofer am y llofrudd ar y pryd, gyda mwy nag un eitem ar rhaglen Crimewatch y BBC.
Llofruddiaeth Ddwbl 2 Ddiwedd mis Mai, 1989, fe aeth Peter a Gwenda Dixon allan am dro ar ddiwrnod olaf eu gwyliau mewn maes pebyll ger Little Haven. Dyna fyddai diwrnod olaf eu bywydau hefyd. Cawsant eu denu i mewn i goedach uwchben clogwyn gan John Cooper. Yno, fe dreisiwyd Mrs Dixon cyn iddi hi a’i gwr gael eu saethu’n farw. Ar ôl canfod y cyrff wythnos yn ddiweddarach fe wnaeth yr heddlu apêl am dystion. Roedd hi’n hâf poeth, a llwybr yn arfordir yn brysur. Tystiodd nifer o ymwelwyr iddynt glywed ergydion o wn 12-bôr, gan dybio mai ffermwr oedd yn saethu brain. Ond yr hyn glywon nhw mewn gwirionedd oedd swn yr ergydion wnaeth ladd Peter a Gwenda Dixon. Fe wnaeth Cooper ddwyn cerdyn banc Mr Dixon a’i ddefnyddio i godi arian o beiriannau twll-yn-y-wal yn Noc Penfro a Chaerfyrddin. O edrych ar gofnodion y banc, fe wnaeth yr heddlu gysylltu â’r cwsmeriaid fu’n defnyddio’r peiriant tua’r un pryd. Llwyddodd un person i roi disgrifiad go fanwl o’r dyn o’i flaen yn y ciw. Roedd tebygrwydd clir i John Cooper. Fel gweddill y wasg, fe wnes ni roi sylw mawr i’r llun gafodd ei baratoi gan arlunydd ar sail y disgrifiad – ond yn ofer. Cyfiawnder o’r diwedd Er i Cooper gael ei ryddhau o garchar yn 2008, cafodd ei arestio eto yn fuan wedyn. Erbyn hynny, roedd dulliau DNA wedi datblygu’n llawer mwy soffistigedig, ac yn dilyn dwy flynedd o waith manwl iawn gan dîm o dditectifs, roedd digon o dystiolaeth fforensig i gyhuddo Cooper o’r bedair llofruddiaeth, o dreisio merch ifanc, a throseddau eraill. Ar ôl ei ddedfrydu i oes o garchar heb parôl, cafodd John Cooper ei gymryd i lawr o’r doc yn Llys y Goron Abertawe yn gweiddi ac yn rhegi. Diolch fyth bod y dyn wnes i ei weld ar sgwâr Caerfyrddin yn mynd i fod o dan glo am weddill ei oes.