Rhuddin: Cryfder, Cymeriad, Gwroldeb, Dewrder, Dygnwch
YDYCH chi wedi estyn am eich siwmperi eto? Cynnau’r tân neu’r system wresogi? Wedi i’r Haf Bach (bach!) Mihangel ddechrau mis Medi ein twyllo nad oedd hi’n amser gadael fynd o dymor yr heulwen, mae sibrydion byd natur yn codi’n uwch wrth i ni sylwi ar dywyllwch y nos yn cau amdanom ychydig yn gynt, ein hanadl yn troi’n fwg yn oerni’r bore a’r blodau haul yn dechrau plygu eu pennau.
Drwy’r cyfnod rhyfedd hwn o newid, mae na rhai pethau sydd wedi aros yr un fath. Ac er bod hyd yn oed rhythm byd natur yn wynebu bygythiadau, mae’r curiad yno o hyd, yn ein hatgoffa ein bod ni’n perthyn i rywbeth y tu hwnt i ni ein hunain.
Dyma un o’r syniadau y mae’r ymarferydd yoga amryddawn sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Laura Karadog, yn sôn amdano yn ei chyfrol newydd: Rhuddin – Ymddidan y Corff a’r Enaid. A hithau’n tynnu sylw at rai elfennau o yoga sydd wedi helpu Laura ar lwybrau bywyd, cawn yma esboniadau, myfrydodau, ymarferion a’r hyn y mae’r awdur yn ei alw’n ‘aur’ y gyfrol, sef cerddi newydd sbon gan nifer o feirdd amlycaf ein cenedl.
Mae’r llyfr wedi ei rhannu’n 10 rhan fer o dan benawdau megis gwreiddio, caredigrwydd, bodlonrwydd, anadlu ac ildio.
Mae’r awdur yn cynnig cefndir a phrofiad personol o bob un o’r agweddau ac yna, ar ddiwedd pob adran, cawn gerdd yn ymateb i’r cynnwys, yn gyfle i ni ystyried o’r newydd yr hyn a rhannwyd â ni. At hynny, mae Laura hefyd wedi llunio ymarferion i gyd-fynd â phob pennod, yn wahoddiad i ni roi’r elfennau ar waith yn ein bywydau ni ein hunain, yn ein hamser ac ar ein rhythm personol.
Y llyfr cyntaf erioed o’i fath yn yr iaith Gymraeg, yn Rhuddin, cawn gyfle i ostegau stormydd y meddwl a chynghanedd i flinderau’r corff.
Cyhoeddir Rhuddin: Ymddidan y Corff a’r Enaid gan Gyhoeddiadau Barddas a bydd ar gael yn eich siopau lleol o’r 27ain o Fedi ymlaen am £9.95.