Cronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis
MAE’R Gronfa Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Statkraft Alltwalis wedi sefydlu ers unarddeg mlynedd ac mae dros £830,483 o bunnoedd y gronfa wedi ei ddosrannu i 34 o glybiau, cymdeithasau a sefydliadau yn ardal etholaeth Llanfihangel ar Arth.
Yn ystod 2020 cyfrannodd cwmni Statkraft swm o £100,414 i’r gronfa a chefnogwyd y ceisiadau canlynol:
1. Banc Bwyd Llandysul: Cefnogwyd £10,000 tuag at y gost o ddosbarthu pecynnau bwyd o ffrwythau a llysiau i 60 o deuluoedd difreintiedig yr ardal. Yn ogystal cafodd rhai gwirfoddolwyr gefnogaeth ar gyfer costau i gludo nwyddau a phresgripsiynau i drigolion a oedd yn hunan ynysu.
2. Clwb Canŵio Paddlers Llandysul: Cyfrannwyd grant o £18,000 tuag at y gost o archebu bws mini newydd. Mae’r bws mini wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y pandemig i gludo pobl heb gludiant i feddygfa ac apwyntiadau ysbyty gan wirfoddolwyr.
3. Cae Chwarae Parc y Glyn Llanfihangel ar Arth: Cefnogwyd cais gwerth £1,208 gan Gymdeithas Cae Chwarae Parc y Glyn i archebu adnoddau ar gyfer twrnament Pêl Droed. Mae’r Cae Chwarae bellach ar agor i’r cyhoedd ar ôl i waith cael ei wneud i wella cyflwr y borfa dros y misoedd diwethaf. Defnyddiwyd arian Statkraft i ariannu’r gwaith hwn.
4. Cylch Meithrin Llanllwni: Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r Cylch wedi elwa yn fawr drwy dderbyn cefnogaeth o £5,000 wrth Gronfa Statkraft tuag at gostau rhedeg y Cylch.
‘Mae’r arian yma yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich cyfraniad sydd yn sicrhau cyflwyniad addysg iaith Cymraeg i blant lleol yn y blynyddoedd cynnar.’
5. Cylch Meithrin Pencader: Cyfrannwyd swm o £5,000 tuag at gostau rhedeg Cylch Pencader. ‘Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cymorth y mae Statkraft wedi rhoi i ni a fydd yn galluogi ni i sicrhau safonau uchel yn y Cylch.’
6. Cyngor Bro Llanllwni: Cefnogwyd cais Cyngor Bro Llanllwni gwerth £2,508 tuag at y gost o osod ffens o gwmpas y cae chwarae. Mae derbyn y grant wedi neud gwahaniaeth mawr er mwyn sicrhau bod y cae yn ddiogel i’r gymuned i fwynhau’r cyfleusterau yma. Mae’r cae chwarae wedi cael tipyn o ddefnydd gan Ysgol Llanllwni, CFFI Llanllwni yn ogystal â theuluoedd sydd wedi gwerthfawrogi’r Cae Chwarae fel adnodd gwerthfawr yn ystod y pandemig.
7. Eisteddfod Llanfihangel ar Arth a’r Plwyf: Cefnogwyd cais gwerth £600 tuag at y gost gwobrau Eisteddfod Llanfihangel ar Arth a’r Plwyf.
8. Cross Roads Sir Gâr – Grant ar gyfer gweithgareddau i ofalwyr ifanc
Cefnogwyd cais gwerth £2,080 ar gyfer talu am gyfraniad i ofalwyr ifanc yr ardal cael saib o’u dyletswyddau gofal. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd 100% o’r gofalwyr ifanc fod y diwrnod yn rhoi peth amser iddynt allan o’u rôl gofalu, a dywedodd 93% ei fod yn rhoi amser iddynt gymdeithasu a chael hwyl.
9. Grŵp Adfywiad Pencader a’r Cylch:
Gwnaeth y Gronfa barhau i ariannu’r gost o argraffu a dosbarthu newyddlen Clecs Bro Cader.’mae cadw’r gymuned yn ymwybodol o wasanaethau lleol yn holl bwysig yn enwedig yn ystod amser ansicr fel y presennol.
10. Sgowtiaid Llandysul: Cefnogwyd cais gwerth £810 ar gyfer archebu pebyll ac offer gwersylla ar gyfer grŵp Sgowtiaid Llandysul.
11. Ysgol Cae’r Felin: Cyfrannwyd grant gwerth £1,524 tuag at y gost o archebu byrddau ychwanegol a rhwystrau plastig er mwyn cwrdd â chanllawiau covid. Bydd y rhwystrau’n cael eu defnyddio i greu ardal bêl droed ar yr iard yn y dyfodol.
12. Ysgol Eglwys Llanllwni: Cefnogwyd ceisiadau gwerth £4,451 ar gyfer archebu adnoddau chwarae tu allan, gosod llawr newydd a pheintio dosbarth. Dywedodd y Pennaeth Hoffwn ddiolch am gyfraniad ariannol y Gronfa ynghyd â’r adnoddau allanol newydd sydd wedi helpu i hyrwyddo lles y disgyblion ar ôl blwyddyn heriol.
Os ydych am geisio am gefnogaeth y Gronfa i glwb, sefydliad neu gymdeithas o fewn ffiniau etholaeth Llanfihangel ar Arth mae croeso i chi gysylltu gyda’r Gweinyddydd Meinir Evans am pecyn ymgeisio ar y rhif ffon 01559 395699 neu drwy e bost meinir.evans@btinternet.com. Bydd y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau ar y 16eg o Dachwedd Bydd hefyd croeso i chi gysylltu os dymunwch gopi o Adroddiad Blynyddol y Gronfa.
Mae dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn ystod 2022 fel y ganlyn:
■ 15ed o Chwefror
■ 17eg o Fai
■ 23ain o Awst
■ 15ed o Dachwedd