Her seiclo anferthol o’r Alpau i Sir Gâr!
LLONGYFARCHIADAU mawr i Nerys Davies sydd newydd gwblhau her seiclo anferthol 10 diwrnod o Tignes yn Ne Ffrainc i’w chartref genedigol yn Sir Gâr. Mae Nerys, sy’n wreiddiol o Drelech, wedi byw yn Tignes, tref fach yn yr Alpau, ers 9 mlynedd. Yr her oedd seiclo dros 1,000 o filltiroedd o un cartref i’r llall!
Cychwynnodd y daith ar uchder o 6889 troedfedd cyn i Nerys anelu lawr at lyn godidog Annecy a theithio drwy gefn gwlad Ffrainc i Baris. Amdani wedyn tuag at y gogledd i Calais er mwyn croesi’r sianel i Dover. Erbyn hynny, gyda’r diwedd mewn golwg, bu’n rhaid seiclo tuag at Lundain fawr a’r hen Bont Hafren, cyn dychwelyd ar dir Cymru, gyda rhyw 250km i fynd cyn cyrraedd pen y daith.
Wrth drafod diwedd y daith, meddai Nerys: “Cefais cymaint o wefr wrth weld yr holl gefnogaeth leol ar hyd y 10 milltir olaf, cyn cyrraedd adref o’r diwedd lle yr oedd teulu a ffrindiau’n aros. Profiad emosiynol i ddweud y lleiaf! Ni allwn fod wedi gofyn am ddiweddglo gwell i her fythgofiadwy.”
Fel rhan o’r sialens mae Nerys yn casglu arian i’r elusen Calon Heart Screening and Defibrillators. Nod yr elusen yw lleihau’r niferoedd sy’n marw’n annisgwyl o gyflwr cardiofasgwlaidd, drwy wella argaeledd diffibriliwr a chynnal sesiynau sgrinio. Meddai Nerys: “Fel rhywun sydd wedi colli tad yn dilyn trawiad sydyn ar y galon yn 57 oed, dwi’n annog pobol i gael prawf i ganfod y llofrudd cudd.”
“Dwi wedi fy llorio gan haelioni pobl a diolch i bawb am eu geiriau caredig, eu cefnogaeth a’u cyfraniadau dros y pythefnos diwethaf.
“Rydym bellach wedi cyrraedd y targed gwreiddiol a chodi dros £10,000 ar gyfer yr elusen anhygoel hon. Bydd yr elusen felly’n medru cynnal diwrnod sgrinio’n lleol, er mwyn rhoi’r cyfle i bobl ifanc yr ardal gael prawf a darganfod unrhyw abnormaleddau. Rydym yn parhau i gasglu er mwyn cefnogi gwaith anhygoel Calon Heart.”
Gallwch gyfrannu at yr achos ar dudalen Justgiving www.justgiving. com/fundraising/tignesirty. Gwerthfawrogir pob cyfraniad yn fawr iawn.