Carmarthen Journal

GAIR O’R GORLLEWIN

-

GEIRIADUR. Tybed faint o bobl sy’n ei ddefnyddio heddi? Haws o lawer yw troi at Google yn ôl rhai!

Eleni, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn dathlu ei ganmlwyddi­ant

Yn y gyfres o gyfrolau sy’n rhan o’r geiriadur fe gawn ddarlun gwych o sut mae’r iaith Gymraeg wedi datblygu ar hyd y canrifoedd, o’i dechreuad yn y bumed a’r chweched ganrif pan esblygodd o’r iaith Frythoneg.

Erbyn heddiw mae ein hiaith wedi datblygu i fod yn un gadarn a chyhyrog, ac yn fwy nag abl i drin yn hyderus iawn ystod eang o bynciau, cyrsiau mewn meysydd amrywiol.

Mae BBC Cymru fyw’n ein hatgoffa y ceir yn ein hiaith, fel yn achos pob iaith lwyddiannu­s, hanes hir o fenthyg, o wrthod, o roi o’r neilltu, ac o ddyfeisio a bathu wrth iddi addasu i heriau’r dydd ar hyd y canrifoedd. Gallwn fod yn hyderus nad unrhyw wendid yn ei geirfa sy’n bygwth dyfodol yr iaith Gymraeg!

Er bod cyfrolau’r Geiriadur yn eistedd yn nobl ar silff lyfrau nifer fawr ohonom ni’r Cymry, trown at ein cyfrifiadu­ron a dysgu bod y geiriadur yn parhau i gynnwys geiriau newydd a fathwyd gan yr oes fodern hon.

Ac er 2014 mae ystod o eiriau newydd o esblygiad i osteopathe­g, cwaratin i cwscws ac o wafflo i hwylfyrddi­o wedi eu hychwanegu!

Geiriau cymharol newydd i’r geiriadur hefyd yw gliniadur, hunlun a digidol. Tybed a welwn y gair swv m (zoom) yn ymddangos ynddo rywbryd? Wn i ddim amdanoch chi, ond dyma air sydd wedi bod yn rhan o’m geirfa i dipyn dros y 18 mis diwethaf! Ond wrth groesawu geiriau newydd, tybed a yw’n deg nodi ein bod hefyd yn colli’r defnydd o ambell hen air? Ond mae rhai geiriau yn oesol. Eu hystyr yr un fath a’r defnydd ohonynt yn mynegi’r un neges. Cariad. Cymwynsaga­rwch. Parch. Maddeuant. Prin y gall yr un eirfa newydd gymryd lle’r rhain, nac yr ymdrech i’w hail-ddiffinio dynnu’r gwir ystyr oddi arnynt. Yr unig beth fyddwn ni ei ddymuno fyddai cael eu clywed yn amlach heddi.

Beti-wyn James

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom