Digwyddiad Drysau Agored Abaty Hendy-gwyn
Cynhaliwyd Digwyddiad Drysau Agored Abaty Hendy-gwyn ar y 24ain a 25ain o fis Medi 2021 lle groesawyd dros 400 o bobl i Abaty Hendy-gwyn gan gynnwys 135 o ddisgyblion Ysgolion Llys Hywel a Dyffryn Taf ar y dydd Gwener.
Gwnaeth y cyhoedd fwynhau arlwy o weithgareddau a stondinau gan gynnwys bendith gan y Fam Christine o Abaty Holy Cross, Hendygwyn a fendithiodd y digwyddiad, cyflwyniad ar fapiau egni gan Mr Ellis Taylor, sesiwn grefftau gan Fenter Gorllewin Sir Gâr, arddangosfa saethyddiaeth ac adloniant gan Gôr Meibion Hendy-gwyn a’r Cylch, a llawer mwy.
Roedd byrddau gwybodaeth wedi’u arddangos ar draws yr Abaty gyda gwybodaeth am yr hanes ac esboniad o beth sy’n weddill o’r adfeilion erbyn heddiw. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu am y traddodiad Sistersaidd sydd yr un mor amlwg yng nghymuned Hendy-gwyn erbyn heddiw.
Croesawyd stondinau gan Ganolfan Hywel Dda, Menter Gorllewin Sir Gâr, Sir Kerry gydag Arfwisg ac Arfau a llu o stondinau gyda nwyddau canoloesol yn ogystal â The Hufen bendigedig.
Cafwyd sgwrs hyfryd ar y dydd Sadwrn gan Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, sy’n gyfoeth o wybodaeth ynglŷn â’r Abaty yn dilyn y cloddiadau yng nghanol y 90au. Diolch iddynt am eu holl gymorth yn crynhoi’r hanes at ei gilydd.
Gwnaeth y cyhoedd fwynhau arddangosfa o waith Cystadleuaeth Celf Oedran Cynradd lle gwelwyd dros 100 o geisiadau o Ysgol Llys Hywel a thu hwnt.
Llongyfarchiadau i’r canlynol am ddod i’r brig: Cystadleuaeth Cyfnod Sylfaen - Dylunio Tarian: Joseph Brown, Betsi Thomas a Poppy - Ysgol Llys Hywel. Canmoliaeth Uchel i Finn Hickman, Ysgol Tavernspite. Cystadleuaeth CA2 - Dylunio Castell: Hannah Gatillia,
Rhydian Batterston a Joshua Williams - Ysgol Llys Hywel.
Diolch yn fawr i bawb a fynychodd, i ysgolion Llys Hywel a Dyffryn Taf am drefnu alldaith i’r digwyddiad ac i bob partner am chwarae rôl i drefnu digwyddiad llewyrchus.