Carmarthen Journal

Llai o waith = mwy o wirfoddoli?

- GAIR O’R GORLLEWIN

A fyddech chi’n croesawu wythnos waith fyrrach?

Mae’r ddadl dros ac yn erbyn hyn yn hen stori ond ei bod wedi codi’i phen unwaith eto’n ddiweddar. Hawdd dychmygu fod pwysau’r pandemig ar gymaint o bobl wedi dwysáu’r diddordeb mewn arferion gweithio mwy hyblyg ac ennyn cefnogaeth iddynt.

Byddai wythnos waith bedwar niwrnod, yn ôl llawer o wybodusion, yn cyfrannu’n sylweddol at osgoi’r effaith andwyol ar iechyd meddwl mae gorlwytho gwaith yn gallu’j gael arnom.

Ar ben hynny, mae Comisiynyd­d Cenedletha­u’r Dyfodol Cymru yn cyflwyno dadleuon bod angen i ni ystyried wythnos waith fyrrach os ydym am arbed swyddi ac adeiladu’r economi’n well.

A beth am edrych y tu hwnt i Gymru am funud? Wel, yn dilyn treialon llwyddiann­us, mae wythnos waith bedwar niwrnod wedi’i chyflwyno’n ehangach drwy Wlad yr Iâ.

Bellach, mae 86% o’r gweithlu wedi mabwysiadu wythnos waith fyrrach. Er nad Gwlad yr Iâ yw’r wlad gyntaf i bwyso am wythnos fel hyn, mae llwyddiant y fenter yn gam ymlaen calonogol ac yn dangos sut y gellid gweithredu’r math hwn o newid mewn gwledydd eraill ar draws y byd.

Gwlad arall ychydig yn nes atom sydd mewn cyfnod cynnar o gynllunio peilot a fyddai’n helpu cwmnïoedd i archwilio manteision a chostau symud at wythnos waith bedwar niwrnod yw’r Alban.

Maen nhw’n dweud y byddai’r peilot yn galluogi’r Senedd neu’r Pàrlamaid na h-alba i ddatblygu gwell dealltwria­eth o oblygiadau symudiad ehangach at wythnos fyrrach ar draws yr economi.

A yw gweithio llai o oriau yn gyfystyr â llai o gyflog, meddech chi? Wel, nid dyna yw’r drefn gyda’r cynlluniau peilot o leiaf.

A da o beth yw hynny, dybiwn i. Go brin y byddai fawr o gefnogaeth iddynt fel arall!

A beth am fanteision wythnos bedwar niwrnod? Wel, gallai arbed arian i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.

Ni fyddai angen i weithwyr deithio nôl a blaen i’r gwaith bob dydd, gan dorri i lawr ar wariant a byddai cyflogwyr yn gwario llai ar drydan ac ati. Byddai gweithwyr yn debygol o reoli’u hamser yn well ac yn llai gwastraffu­s.

Byddent hefyd, fwy na thebyg, yn fwy bodlon eu byd. Ar ben hynny, byddai wythnos fyrrach yn fyw cyfelligar i’r amgylchedd drwy dorri i lawr ar ôl-troed carbon a’i effeithiau.

Ond, wrth gwrs, mae dwy ochr i’r geiniog ac anfanteisi­on posibl yn ôl rhai. Maen nhw’n cynnwys y perygl o beidio â chwblau prosiectau neilltuol mewn pryd, Gallai cyflogwyr hefyd ymestyn oriau gwaith diwrnod arferol y gweithwyr, gan effeithio ar eu harferion a’u hamserlenn­i dyddiol. Byddai’n niweidiol i werthianna­u, yn ôl rhai, gan beryglu dyfodol busnes neu gwmni neilltuol.

Wel, gellir mynd ymlaen ac ymlaen â’r ddadl hon!

Ond i mi, un o fanteision mawr yr wythnos waith fyrrach fyddai gallu rhyddau pobl i wirfoddoli mwy er budd cymdeithas a chymuned yn gyffredino­l, A meddyliwch gymaint o fantais fyddai hynny i ddyfodol ein hiaith a’n diwylliant a’n crefydd yng Nghymru! Byddai’n gyfle gwych ond tybed faint ohonom fyddai’n gêm?!

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom