Carmarthen Journal

Stori ddelfrydol am wrachod ar gyfer Calan Gaeaf

-

Mae Bethan Gwanas eisoes wedi ysgrifennu dwy nofel boblogaidd i oedolion am wrachod, ond yr wythnos hon cyhoeddir llyfr i blant gan yr awdures gyda naws berffaith ar gyfer Calan Gaeaf – Cadi a’r Gwrachod.

Meddai Bethan Gwanas: “Mabon, fy ngor-nai, wnaeth ysbrydoli’r stori yma – roedd o eisiau gwrachod! Dwi wedi sgwennu llyfrau oedolion am wrachod, ond ro’n i wir isio sgwennu llyfr plant amdanyn nhw a Chalan Gaeaf, am ei fod yn gymaint o hwyl.”

Cadi a’r Gwrachod yw’r pumed llyfr yng Nghyfres Cadi sy’n dilyn y ferch fach annwyl a busneslyd, Cadi, a’i brawd Mabon. Mae Cadi yn mynd ar antur wahanol ym mhob llyfr ac yn dysgu gwersi pwysig.

“Y tro yma mae Cadi yn dysgu nad ydy gwylltio gyda’i brawd bach a dymuno ei droi yn llyffant yn syniad da – yn enwedig ar noson Calan Gaeaf pan mae’r lleuad yn llawn… Ydy, mae Mabon druan yn troi’n llyffant, ac mae’n rhaid i Cadi ac yntau fynd i Wlad y Gwrachod i chwilio am help. Rwy’n gobeithio y bydd plant yn mwynhau’r stori, ynghyd â dysgu bod angen ymarfer, gwaith caled a dyfalbarha­d i feistroli unrhyw grefft. Ac na ddylech chi alw enwau ar bobl!”

Unwaith eto mae’r arlunydd dalentog Janet Samuel wedi dod â’r cymeriadau yn fyw i ddarllenwy­r ifanc gyda’i darluniada­u hardd a lliwgar. Meddai Janet Samuel: “Roedd gweithio ar Cadi a’r Gwrachod yn gymaint o hwyl! Rwy’n teimlo’n agos iawn at Cadi, ac yn caru’r bywyd mae Bethan wedi rhoi iddi a’i holl anturiaeth­au! Calan Gaeaf yw fy hoff amser o’r flwyddyn, felly roedd creu byd gyda gwrachod yn freuddwyd.”

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom