Plannu hadau gobaith a chymdogaeth
Lle bu gardd, lle bu harddwch... gwelai B T Hopcyn ...lain a’i drain yn drwch. Druan â bardd y Mynydd Bach. Dyna i chi olygfa ddiflas. Ddoe a heddi. Golygfa i blymio’ch calon tua gwaelod y’ch stumog. Canolbwynt harddwch a balchder ddoe yn dagfa whyn a drysni heddi. Prifiant a chynhaliaeth slawer dydd yn anialdir y dwthwn hwn. Ffordd o fyw yr oes hunangynhaliol a fu yn ddiffeithwch di-werth yr oes fasnachol sydd ohoni.
Ond yn Llandysul, yng nghysgod y ffordd brysur-brysur sy’n galluogi’r teithwyr talog i osgoi’r dre (a chyrraedd pen draw eu taith lawn bum munud ynghynt, mae’n siwr), mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd. Nid hiraethu am a fu y mae nhw ond meddwl am y dyfodol. Nid edrych yn ôl ond edrych ymlaen. Nid galaru ond atgyfodi. Troi darn o dir diffaith yn werddon ffrwythlon, ir. A gwneud hynny er lles y winllan a roddwyd i’n gofal. Ein cymdogaeth leol. Cymru. Ewrop. Y Byd.
A dyma i chi ffaith arall sy’n herio ystrydeb yr-hen-fyd-yma’ndod-i-ben. Daeth y syniad o fuddsoddi diferyn o arian a ffrwd barhaus o lafur cariad nid oddi wrth wyddonwyr na garddwyr na hyd yn oed natur-garwyr pybyr ond oddi wrth ddau griw o bobol ifainc. Ar wahân. Y naill griw mewn sgwrs yn eglwys newydd Ffynnon a’r llall yng Nghlwb Ieuenctid Tysul sydd a’i fan cyfarfod yn hen gapel Peniel. Braf yw dweud fod arweinwyr y gymdeithas leol yn Nyffryn Teifi wedi ymateb i syniadau cyd- ddigwyddiadol y bobol ifainc mewn modd sy’n rhagori ganwaith ar ymateb arweinwyr gwledydd cyfoethoca’r byd i gri Greta Thunberg. O darddiad y naill sgwrs a’r llall y mae un ffrwd o weledigaeth a chyd-ddychymyg yn dechrau troi’r tir neb na dim yn dir pawb a phob dim.
Ystyr pawb yw pawb. Hen ac ifanc. Cynhenid a newyddddyfodiaid. Gardd-wybodus neu anwybodus. Pobol annibynnol a’r rhai sydd angen help a chefnogaeth. Pawb. Dim ffiniau. A phawb yn tyfu deialog aml-ieithog, aml-ddiwylliannol â’i gilydd. Yn magu dysg drwy gyfrwng ei gilydd. Yn hau hadau parch i’w gilydd. Gyda’i gilydd.
Ddydd Sadwrn bydd cyfle i chi gefnogi gweledigaeth pobol ifainc Ffynnon a Ieuenctid Tysul drwy ymweld â’r Ardd. Bydd ffilm fer fydd yn cynnwys gwaith y cerddor ifanc o Gapel Dewi, Owen Shiers, yno i’ch hysbrydoli yn ogystal a chroeso gan y tîm egniol sydd wedi helpu troi hedyn o syniad yn ffrwyth o weithredu. (Manylion pellach – tudalen Facebook Plethu.)
A phwy a ŵyr na fydd yna fardd ifanc yno yn meddu ar y gobaith a’r awydd a’r egni i droi ‘Lle bu gardd’ yn ‘Lle bydd gardd...’ .