Carmarthen Journal

Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

-

O dan yr amgylchiad­au presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgare­ddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithas­u a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwydd­iadau’r llywodraet­h parthed cyfyngiada­u.

Wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol rydym eisiau clywed eich syniadau chi: https://tinyurl. com/7jaty8dt

Noson Shwmae a Siopa:

Hoffai’r Fenter ddiolch i bawb ymunodd â ni nos Wener y 15fed o Hydref yn Yr Atom wrth i ni ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae yn ein noson Shwmae a Siopa. Os wnaethoch chi ymuno â ni, rydym eisiau clywed eich barn: shorturl.at/dfjay Bore Hwyl Shwmae Sumae:

Diolch i bawb ymunodd â ni ar ddydd Sadwrn, Hydref 16, yn Festri Eglwys Penboyr wrth i ni ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae yn ein Bore hwyl i’r teulu. Cawsom fore o greu crefft, canu, stori a chwarae gemau ac edrychwn ymlaen at y bore hwyl nesaf!

Adweitheg Babi/plentyn:

Am y tro cyntaf erioed, mae’r Fenter yn cynnig dosbarthia­dau Adweitheg Babi/plentyn. Mae’r gyfres o bedair wythnos yng ngofal Meleri Brown o Hafan Holistaidd yn cael eu cynnal yn Neuadd Gymunedol Ysgol Peniel. Mae’r gyfres hon yn llawn ond y bwriad yw cynnal cyfres arall yn y flwyddyn newydd. Os oes diddordeb gyda chi i fynychu’r sesiynau, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

Gemau Buarth:

Mae’r swyddogion datblygu Alma, Ceris a Gwyneth wedi bod yn mynd o amgylch ysgolion yr ardal yn cynnig sesiynau gemau buarth. Mae’r dair wedi bod yn ymweld â’u hysgolion yn cynnwys Ysgol Llanpumsai­nt, Cynwyl Elfed, Brynsaron, Bro Brynach, Llansteffa­n,

Bancyfelin, Hafodwenog, Y Dderwen, Peniel, Cae’r Felin a Llangynnwr. Mae’r sesiynau yma’n gyfle i chwarae gemau buarth traddodiad­ol ac yn gyfle i ddefnyddio geirfa Cymraeg tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Edrychwn ymlaen at ymweld ag ysgolion arall yr ardal dros yr wythnosau nesaf.

Arweinwyr y Dyfodol:

Ym mis Medi, cyflwynodd Menter Gorllewin Sir Gâr gwrs ‘Arweinwyr y Dyfodol’ ac mae criw ifanc o wirfoddolw­yr wedi dod at ei gilydd i ddilyn y cwrs. Mae’r cwrs yn cynnwys hyfforddia­nt a fydd yn arwain at gymhwyster Lefel 2. Bydd y criw brwd yma’n cael cyfle i wirfoddoli yn eu cymunedau a datblygu sgiliau arwain ynghyd â dysgu am farchnata a’r gymuned ddwy-ieithog. Bydd yr holl brofiadau yma’n ychwanegia­d gwerthfawr i’w CV ac i’w datblygiad a’u hyder. Mae’r criw wedi cwrdd yn rhithiol ac wyneb yn wyneb er mwyn dechrau ar y sesiynau hyfforddi. Diolch i Catrin Llwyd ac Adran Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Gâr am eu rhan yn y prosiect hwn ac i Gwirfoddol­i Cymru am ei ariannu.

Taith Fygi:

Rydym yn ail-gychwyn ar ein sesiynau teithiau bygi poblogaidd yn y dair ardal, sef Castell Newydd Emlyn ar ddydd Mawrth, Dachwedd 16 a 30, Hendygwyn-ar-daf ar ddydd Mercher Dachwedd 3 a 17 a Ragfyr 1, ac yng Nghaerfyrd­din ar ddydd Gwener Dachwedd 5 a 19 ar Ragfyr 3. Mae’r teithiau yn ymgynnull am 10.15yb ac yn cychwyn am 10.30yb ym mhob ardal. Ymunwch â ni am gyfle i sgwrsio, gwneud ychydig o ymarfer corff ac am wâc hamddenol. Mae’n angenrheid­iol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda ymholiad@mgsg. cymru i gofrestru.

Sesiynau stori:

Rydym yn cychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddi­n ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar Dachwedd 8 a 22 a Ragfyr 6, ym Mhont Tyweli ar ddydd Mawrth yn y Pwerdy ar Dachwedd 9 a 23 a Ragfyr 7, yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât ar Dachwedd 10 a 24 a’r Ragfyr 8. Bydd y sesiynau yn cychwyn am 10.30yb ym mhob lleoliad. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu.

Mae’n angenrheid­iol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru i gofrestru. Ffitrwydd a Siapio:

Ar ôl cyfres llwyddiann­us o Ffitrwydd a Siapio gyda Siân Spencer ym mis Medi, rydym yn trefnu ailgyfres ym mis Tachwedd yn Neuadd yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn yn cychwyn ar nos Wener, Dachwedd 12 o 5.30-6.30yp. £20 am pedair wythnos. Oherwydd niferoedd cyfyngedig bydd angen cofrestru o flaen llaw gyda nia@mgsg.cymru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeitha­su dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgared­d yma yn addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd ar yr ail nos Fawrth bob mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar y trydydd nos Fawrth pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithas­u a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

NEWYDD! Helfa Drysor Nadolig:

Mae’r Fenter a’r Atom yn trefnu rhywbeth ychydig yn wahanol dros yr wyl eleni. Byddwn yn creu Helfa

Drysor Nadoligaid­d ar hyd Stryd y Brenin, Caerfyrddi­n yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig. Cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithas­ol am fwy o wybodaeth gyffrous.

Diwrnod y Ceirw a Chwtsh Corachod:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Chyngor Tref Caerfyrddi­n a phartneria­id y cyngor tref eleni eto i gynnal Diwrnod y Ceirw ar Tachwedd 20. Yn ogystal byddwn yn cynnal ‘Cwtsh y Corachod’ mewn safleoedd ar draws y dref er mwyn i deuluoedd yr ardal fanteisio ar gyfleoedd i wneud crefft Nadoliaidd amrywiol a hwyliog. Cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfrynagu cymdeithas­ol am fwy o wybodaeth.

NEWYDD! Sioeau Nadolig Siani Sionc:

Bydd Siani Sionc yn gwneud dwy sioe Nadolig yn ardal gorllewin Sir Gâr ar Dachwedd 27, yn ymweld â Neuadd Goffa Llangain am 10.30yb a Chanolfan Bentref Cwmann am 2.30yp. £2 y plentyn gyda mynediad i oedolion a fabis o dan 12 mis am ddim. Nifer cyfyngedig felly cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru i archebu eich lle.

NEWYDD! Gweithdy Creu Torch Nadolig:

Edrychwn ymlaen at noson ar Zoom eleni eto gyda Wendy Blodau Blodwen ar Ragfyr 3 am 7yh pan fyddwn yn creu torch Nadoligadd. £35 y pen yw cost y sesiwn a bydd angen cysylltu i gofrestru erbyn Dachwedd 25 er mwyn debryn eich pecyn o flaen llaw. Cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru. NEWYDD! Noson Gyd-goginio Nadolig:

Ymunwch â ni am noson gydgoginio Nadoligaid­d ar Zoom gyda Lloyd Henry ar Ragfyr 8 am 7yh. I gofrestru, cysylltwch gyda ceris@mgsg. cymru.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom