Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr
Rydym yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i 700 o aelodau rhwng 10 a 26 oed sy’n byw yn Sir Gâr. Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn un anodd iawn i ni fel Mudiad, yn ogystal â phawb arall ar hyd y wlad. Er hyn, rydym yn falch bod pethau yn dechrau dod yn ôl, ac yn rhoi bach o “normalrwydd” i’r aelodau a’i Chlybiau. Dyma gipolwg o’r gweithgareddau sydd wedi bod ymlaen ers dechrau calendr y Mudiad am 2021-22.
Clybiau
Ar hyn o bryd mae 20 Clwb gyda ni fel Mudiad, sydd wedi cadw mynd yn ystod yr amser anodd yma, ac erbyn hyn yn cwrdd wyneb yn wyneb a hynny yn wythnosol neu bob pythefnos.
Mae’r holl Glybiau wedi cynnal eu Cyfarfod Blynyddol, lle caiff swyddogion newydd eu hethol megis Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd ac Arweinwyr y Clybiau. Braf yw gweld cynifer o aelodau hen a newydd wedi ymuno a’r Clybiau. Mae’n Glybiau o hyd yn chwilio am Aelodau newydd i ymuno a nhw. Staff
Rhodri Lewis yw Trefnydd y Sir, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r Mudiad ers 2016 cyn dod yn drefnydd yn 2017. Fel rhan o’i waith mae’n gyd weithio gyda’r Swyddog Gweinyddol a Marchnata, swyddogion y Sir ac Arweinyddion a swyddogion y clybiau gan sicrhau fod gweithgareddau’r mudiad yn cael eu cynnal yn effeithiol a hefyd asesu anghenion y clybiau a darparu gwasanaeth yn unol â’r anghenion hynny.
Hana Thomas yw Swyddog Marchnata a Gweinyddol y Sir.
Dechreuodd Hana yn y swydd yma ar ddechrau mis Medi, gan fod Tomos Rees wedi gadael y swydd ar ddiwedd mis Awst. Mae’n ddyled yn fawr iddo am ei waith dros y ddwy flynedd a hanner yn gweithio gyda’r Mudiad yn y Sir.
Gweithgareddau
Cynhaliwyd Cinio’r Sir yn y Llwyn Iorwg, Caerfyrddin nos Wener, Medi 23, er mwyn diolch a llongyfarch ein Cadeirydd dros y ddwy flynedd diwethaf, Iestyn Owen a Llywydd dros y dair mlynedd diwethaf, Jean Lewis. Cafwyd noson dda iawn, ac roedd yn braf medru cymdeithasu wyneb yn wyneb unwaith eto.
Ar nos Fercher, Medi 29, cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFFI Sir Gâr. Cyn dechrau’r cyfarfod cyhoeddodd Iestyn Owen, Cadeirydd y Sir am 2019-20 a 2020-21 bod Her Seiclo’r 75 wedi codi £4350 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, Ymatebwyr Cyntaf Caerfyrddin a Leukaemia Research Appeal for Wales.
Golygir hyn fod y tri yn cael £1450 yr un.
Llongyfarchiadau i’ swyddogion newydd y Sir am 2021-2022: Llywydd y Sir: Elfyn Davies Is-lywydd y Sir: Colin Evans Cadeirydd y Sir: Hefin Evans Is-gadeirydd y Sir: Aled Thomas Cadeirydd Gweithgareddau: Sion Evans
Is-gadeirydd Gweithgareddau: Ffion Medi Rees
Cadeirydd Cyllid: Sian Williams Is-gadeirydd Cyllid: Caryl Jones Trysorydd y Sir: Angela Isaac Llongyfarchiadau i CFFI Penybont am ennill Cwpan Goffa Elfyn Richards am y Clwb gorau yn Siarad Cyhoeddus y Sir am 2020-21.
Da iawn i Dîm tynnu rhaff CFFI San Clêr a Thîm Pêl rwyd y Sir am gynrychioli’r Sir ar lefel NFYFC ar ddechrau mis Hydref. Llongyfarchiadau i CFFI San Clêr am ddod yn 4ydd. Ar yr un penwythnos cynhaliwyd cystadleuaeth Stocmon y Flwyddyn ar lefel Cenedlaethol. Diolch i Nia, CFFI San Ishmael a Ffion, CFFI Llanfynydd oedd yn cynrychioli’r Sir a Chymru. Llongyfarchiadau mawr i Nia am ddod yn 1af yn y papurau “Vets” ac yn 2ail dros y cyfan yn yr adran iau.
Mae Eisteddfod y Sir yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yng nghalendr y Sir. Cafwyd diwrnod llawn cystadlu ac adloniant eleni eto, er ychydig yn wahanol - heb gynulleidfa heblaw aelodau oedd yn cystadlu, hyfforddwyr ac arweinyddion Clwb.
Er hyn, braf oedd medru ffrydio’r Eisteddfod yn fyw dros Zoom - gyda 300 wedi cofrestru i wylio erbyn diwedd y dydd. Diolch’r pawb am sicrhau Eisteddfod lwyddiannus iawn. Pob lwc i bawb fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Sir ar lefel CFFI Cymru.
Edrychwn ymlaen nawr i fis brysur iawn ym mis Tachwedd rhwng Cystadlaethau’r Ffair Aeaf a Siarad Cyhoeddus Saesneg y Sir. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at fis Rhagfyr gyda Chwis y Sir, Gwasanaeth Garolau a hefyd Dawns Nadolig ym Marc y Scarlets.
Cofiwch – rydym o hyd yn edrych am aelodau newydd i ymuno a ni. Cysylltwch drwy’r manylion isod.