Amdani, Gyda’n Gilydd
BLAH, blah, blah. Dyna rai o’r geiriau sydd wedi cael eu dyfynnu fwyaf yn ystod yr wythnosau diwethaf yn sgil uwchgynhadledd COP26 yn yr Alban. A chyda’r holl addewidion a’r ystadegau sydd wedi eu taflu atom yn ymwneud â newid hinsawdd, mae’n ddigon i ddrysu unrhyw un.
Un o’r geiriau sy’n debygol o gael yr effaith mwyaf arnom ni yma yng Nghymru yw ‘methan’. Fel merch fferm, dwi’n cael fy nghorddi gan anghydbwysedd y dadleuon a’r ffeithiau honedig sy’n cael eu pedlo ynglyn â methan yng nghyswllt ffermio ac amaethyddiaeth. Cafodd y teimladau hynny eu corddi ymhellach yr wythnos hon wrth i fi addasu llyfr am Newid Hinsawdd ar gyfer plant i’r Gymraeg. Yn ogystal â llun o ffeithiau digon dwys a difyr, roedd gogwydd y llyfr yn drwm iawn tuag at annog darllenwyr i fwyta llai o gig a throi at ddiet llysieuol a fegaidd fel ffyrdd o achub y blaned. Methu deall ydw i, pam nad oes mwy o sôn am y ffaith mai diwydiant, nid amaethyddiaeth, sy’n creu’r ganran uchaf o fethan yn y byd, ac y byddai bwyta bwyddydd tymhorol sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol yn cael llawer mwy o effaith ar newid hinsawdd na chludo a mewnforio bwydydd llysieuol o bedwar ban y byd. Faint o goedwigoedd glaw sy’n cael eu torri bob blwyddyn i gynhyrchu soya ac olew palmwydd, er enghraifft? Ac mae’r holl sôn am gytundeb masnach gydag Awstralia, ac oblygiadau cludo nwyddau oddi yno hanner ffordd o gwmpas y byd i Brydain, yn hytrach na dibynnu mwy ar farchnadoedd yn agos i gartref, yn tanseilio unrhyw fanteision o safbwynt newid hinsawdd, ddweden i.
Cyn cloi, man â man i fi daflu ychydig ystadegau atoch hefyd. Mae’n debyg fod y 2.7% o ardal ddinesig y byd yn cynhyrchu 36% o allyriadau’r byd. Mae amaethyddiaeth yn defnyddio 36% o dir y byd, ac eto ond yn gyfrifol am 10% o allyriadau’r byd. O wneud y syms, mae’n amlwg bod rhywbeth o’i le ar rai o’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno.
Peidiwch â ’nghamddeall i, does dim amheuaeth fod angen cymryd camau eithaf sylweddol i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ac mae gyda ni bob un ein rhan i chwarae yn y frwydr. Gallwn ni i gyd gymryd ambell gam bach i helpu’r sefyllfa, a thrwy’r camau bach hynny, yn enwedig y rhai lleol a thymhorol, gallwn ennill tir. I ddyfynnu arwyddair ymgyrch Plant Mewn Angen Radio Cymru yr wythnos hon, gadewch i ni gyd fynd Amdani, Gyda’n Gilydd. Ac nid blah, blah, blah yw hynny!