Eisteddfod CFFI Sir Gâr 2021
BRAF oedd bod nôl eleni ar gyfer Eisteddfod CFFI Sir Gaerfyrddin, a hynny wyneb yn wyneb. Bu cystadlu brwd yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin yn Eisteddfod Sir Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ar Ddydd Sadwrn 23ain o Hydref 2021. Ar ôl dydd cyfan o adloniant o safon uchel iawn, CFFI Llanllwni cipiodd darian yr Eisteddfod eleni. Llongyfarchiadau i’r clwb a hefyd i CFFI Penybont am ddod yn ail, ac i CFFI Llanllwni am gipio’r wobr gyntaf yn yr adran gwaith cartref hefyd.
Roedd gwaith caled iawn o flaen ein beirniaid gyda’r holl gystadlu. Mae ein diolch yn mynd iddynt hwy i gyd am ei gwasanaeth. Bu Mr Gwyn Nicholas yn beirniadu’r Adran Gerdd, Mrs Lowri Jones yn yr Adran Llefaru, Mr Emyr Lloyd yn yr Adran Ysgafn, Eurfyl Lewis yn yr Adran Gwaith Cartref a Dr Mererid Hopwood am feirniadu’r cystadlaethau Rhyddiaith a Cherdd.
Ein llywydd ar gyfer yr Eisteddfod eleni oedd Mrs Ann Davies. Diolch yn fawr iddi am ei geiriau pwrpasol o’r llwyfan ac am ei rhodd hael tuag at gyllid y Mudiad yn Sir Gâr.
Bum yn ffodus iawn o gael Elin Rees yn gyfeilydd yn yr Eisteddfod eleni eto. Rydym am ddiolch iddi am ei gwasanaeth a hefyd i’r unigolion arall fu’n cyfeilio i’r aelodau. Diolch hefyd i’r sawl fu’n arwain yn yr Eisteddfod eleni - Hefin Evans, Sion Evans, Ffion Medi Rees ac Aled Thomas. Diolch yn fawr hefyd i bawb oedd yn gweithio tu cefn llwyfan ac wrth ddrysau’r fynedfa, yn gwerthu raffl ac wrth ofal y siop.
Mae ein diolch yn fawr i’n cofiaduron oedd wrthi’n gofalu am y sgoriau. Diolch i Marian Thomas a Angela Isaac a hefyd i Llinos Jones fu hefyd wrthi yng ngofal y tystysgrifau. Diolch yn fawr hefyd i Dylan Bowen, Mathew Jones ac Arwel Jones oedd wrthi yng ngofal y Sain a’r Golau.
Hoffwn ddiolch yn fawr i Nia Thomas o CFFI Llanddarog am gael defnyddio’r goron yn seremoni cadeirio eisteddfod CFFI Sir Gâr eleni eto. Enillydd y goron yma oedd Luned Jones o CFFI Llanllwni. Cafodd cerflun cyfoes ei roi gan Gadeirydd y Sir, Hefin Evans i Luned Jones â chreuwyd gan Dylan Bowen. Enillydd y gadair eleni oedd Alpha Evans o CFFI
Cwmann. Roedd y gadair yn rhoddedig eleni gan Gadeirydd y Sir, Hefin Evans. Cafodd y gadair yma ei greu gan Llyr Thomas. Llongyfarchiadau i Luned Jones a Alpha Evans, a diolch i bawb a gymrodd rhan yn y Seremoni, yn enwedig i Elfyn Davies, Llywydd y Sir am redeg y seremoni yn hwylus.
Yn ogystal â Seremoni Cadeirio Eisteddfod CFFI Sir Gâr 2021, cynhaliwyd Seremoni Gadeirio Eisteddfod Rithiol CFFI Sir Gâr a chafwyd ei gynnal nôl ym mis Mawrth 2021. Roedd hyn er mwyn clodfori gwaith Sioned Howells, CFFI Llanllwni a enillodd y Gadair a’r Goron. Cafodd anrheg ei roi o goron gan Lywydd y Sir 2020-21, Jean Lewis â greuwyd gan Dylan Bowen ac roedd cadair yn rhoddedig gan Gadeirydd y Sir 2020-21, Iestyn Owen a greuwyd hefyd gan Iestyn Owen.
Diolch i holl Swyddogion CFFI Sir Gâr am stiwardio’r eisteddfod a diolch i Chyfrifiwr LHP, Cyfreithwr Ungoed-thomas & King a David ac Anthony o Jin Talog am noddi’r digwyddiad.
Dyma ganlyniadau’r Eisteddfod:
Cystadleuthau Llwyfan
Unawd Offerynnol
1 Dafydd Owen, CFFI Llanddarog 2 Daniel O’callaghan, CFFI Penybont 3 Gwenno Roberts, CFFI Llanfynydd
Unawd Alaw Werin
1 Daniel O’callaghan, CFFI Penybont 2 Hannah Richards, CFFI Penybont 3 Sioned Howells, CFFI Llanllwni
Canu Emyn
1 Trystan Evans, CFFI Dyffryn Cothi 2 Hannah Richards, CFFI Penybont 3 Celyn Richards, CFFI Penybont
Sgets
1 CFFI Capel Iwan
2 CFFI Llanllwni
3 CFFI Llangadog
Stori a Sain
1 CFFI Llanllwni
2 CFFI Penybont
3 CFFI Capel Iwan
Cân Gyfoes
1 CFFI Capel Iwan
Unawd 16 neu iau
1 Celyn Richards, CFFI Penybont 2 Trystan Evans, CFFI Dyffryn Cothi 3 Fflur Williams, CFFI Capel Iwan
Llefaru 16 neu iau
1 Celyn Richards, CFFI Penybont 2 Olwen Roberts, CFFI Penybont 3 Esther Defis, CFFI Capel Iwan
3 Cai Williams, CFFI Llanddarog
Unawd 21 neu iau 1 Hannah Richards, CFFI Penybont 2 Daniel O’callaghan, CFFI Penybont
Llefaru 28 neu iau
1 Hannah Richards, CFFI Penybont 2 Sara Elan Jones, CFFI Cwmann 3 Daniel O’callaghan, CFFI Penybont
Unawd 28 neu iau
1 Carwen George, CFFI Dyffryn Cothi
Deuawd
1 Daniel O’callaghan a Phoebe Morgan, CFFI Penybont
2 Heledd Jones a Rhiannon Jones, CFFI Dyffryn Tywi
Parti Llefaru
1 CFFI Llanllwni
2 CFFI Llangadog
Meimio i Gerddoriaeth
1 CFFI Capel Iwan – Glas Golau
2 CFFI Llanllwni
3 CFFI Llangadog - Glas
‘Sgen ti Dalent?
1 Celyn Richards, CFFI Penybont
Monolog
1 Olwen Roberts, CFFI Penybont 2 Hannah Richards, CFFI Penybont 3 Abner Evans, CFFI Llangadog
Unawd Sioe Gerdd neu Ffilm 1 Carwen George, CFFI Dyffryn Cothi 2 Hannah Richards, CFFI Penybont 3 Carys Morgan, CFFI Llanfynydd
Deuawd neu Driawd Ddoniol 1 Hefin Jones, Ifor Jones a Sioned Howells, CFFI Llanllwni
Parti Unsain
1 CFFI Penybont
2 CFFI Capel Iwan
3 CFFI Llangadog Merched
Gwaith Cartref
Rhyddiaith
1 Luned Jones, CFFI Llanllwni 2 Heledd Jones, CFFI Dyffryn Tywi 3 Sioned Howells, CFFI Llanllwni
Cerdd
1 Alpha Evans, CFFI Cwmann
2 Rhian Hughes, CFFI Llanymddyfri 2 Sioned Howells, CFFI Llanllwni
Cystadleuaeth i aelodau 28 neu iau 1 Caryl Jones, CFFI Llanddarog
Cystadleuaeth i aelodau 21 neu iau 1 Elan Thomas, CFFI Penybont
Cystadleuaeth i aelodau 16 neu iau 1 Angharad Daniel, CFFI Llannon 2 Celyn Richards, CFFI Penybont
3 Llyr Campbell, CFFI Llanddarog 3 Sion Campbell, CFFI Llanddarog
Brawddeg
1 Mari James, CFFI Llangadog
2 Caryl Jones, CFFI Llanddarog
3 Caeo Pryce, CFFI Penybont
Ffotograffiaeth
1 Mari James, CFFI Llangadog 2 Cathrin Jones, CFFI Llanllwni 3 Nerys Jones, CFFI Llanllwni
Limrig
1 Sara Thomas, CFFI Llanllwni
2 Abner Evans, CFFI Llangadog
3 Siriol Howells, CFFI Llanllwni
Celf a Chrefft 28 neu iau
1 Elan Thomas, CFFI Penybont
2 Siriol Howells, CFFI Llanllwni
3 Ffion Campbell, CFFI Llanddarog
Cyfansoddi Geiriau Cân
1 Sioned Howells, CFFI Llanllwni
Tarian Elonwy Phillips am Gwaith Cartref:
1. CFFI Llanllwni
2. CFFI Llanddarog
3. CFFI Penybont
4. CFFI Llangadog Canlyniadau Terfynol Eisteddfod
1. CFFI Llanllwni (Tarian Mr T Davies, Blaenteg)
2. CFFI Penybont (Tarian Nantybwla)
3. CFFI Capel Iwan
4. Llangadog
5. Llanddarog