Carmarthen Journal

Y Parsel Coch

- GAIR O’R GORLLEWIN Hanna Hopwood Griffiths

YDYCH chi’n gwybod beth sydd yn y parsel coch? Cyfrinach sydd yn y parsel coch!

Sawl un ohonom sydd â rhestrau di-ben-draw o bethau sydd ‘rhaid’ eu prynu erbyn y Nadolig? Pethau sydd ‘angen’ eu gwneud a phethau y ‘dylwn’ eu casglu? Sawl un ohonom sydd wedi gwingo wrth wybod ein bod yn gor-wario, yn prynu rhywbeth sydd y tu hwnt i’r hyn a fwriadom?

Beth am roi’r arian i naill ochr ac ystyried y parsel ble na wyddom beth sydd y tu mewn. Yn wir, y cwbl sydd yn y parsel ydy cyfrinach. Mae wedi ei lapio’n ofaulus mewn papur coch a rhuban pert yn clymu’r cyfan. Dychmygwch dderbyn y parsel, yn gwbl annisgwyl gan rywun nad ydych yn ei adnabod. Dychymgwch y teimlad bod rhywun yn meddwl amdanoch, bod rhywun wedi gweld eich bod chi angen codi eich calon ac yn rhoi cyfarwyddi­d eich bod chithau I’w basio ymlaen at berson arall, pan fo’r amser yn iawn. Efallai bod rhywun wedi profi anffawd, efallai bod rhywun wedi cael diwrnod neu newyddion drwg, efallai bod rhywun yn byw mewn unigedd, neu jyst yr angen I godi gwên.

Dyma yw ffocws stori dymhorol Y Parsel Coch gan Wasg Carreg Gwalch. Stori hudolus am Anna a’i Nain yn mynd i’r pentref cyn y Nadolig ond yn gweld bod pawb yn rhy brysur i siarad â nhw – does dim amser gyda neb i oedi am sgwrs, mae pawb yn bwrw ymlaen, a neb yn sylwi ar ei gilydd. Maen nhw’n mynd ati i greu parsel sy’n gwneud ei ffordd o amgylch y pentref. Rhwng lluniau hyfryd yr artist, yr hyn a ddysgwn wrth i’r parsel fynd o berson i berson yw nad oes ots o gwbl beth sydd yn yr anrheg. Y weithred o roi sy’n bwysig a dyna beth sy’n twymo calon y derbynydd a’r rhoddwr, drwy brofi a rhannu caredigrwy­dd.

Efallai mai llyfr i rai lleiaf ein cymdeithas yw’r Parsel Coch, ond gallwn oll ddysgu cryn dipyn gan yr anrheg hyfryd hwn.

Gallwch brynu Y Parsel Coch am £7.95 yn Siop y Pentan.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom