Grŵp Masnachwyr Tref Castell Newydd Emlyn
CYNLLUN Taleb Tref Newcastle Emlyn: Lansiwyd y cynllun yn ystod y pandemig ym mis Tachwedd 2020
Mae’r cysyniad yn syml! Talebau lleol i’w gwario mewn dros 40 o leoedd yn y dref.
Gellir prynu talebau (gwerth £10 a £5) ar gael gan Teifi Chips, Tivy Hall a Chanolfan Arddio Trefhedyn. Maent hefyd ar gael ar-lein https:// www.visitnewcastleemlyn.co.uk/ store
Cofiwch nad ar gyfer y Nadolig yn unig y mae ein talebau, gellir eu prynu a’u defnyddio trwy gydol y flwyddyn!
Caroline Roberts o Fabric House: “Rydym wedi gwerthu dros £2,200 hyd yma, mae pob taleb sy’n cael ei gwario yn helpu ein busnesau bach unigryw i ffynnu, gan gefnogi cyflogaeth leol a’r economi leol. Yn ôl ymchwil a wnaed gan Totally Locally Gall pob £ 5 yr wythnos a werir yn ein siopau a’n busnesau lleol, yn lle ar-lein fod yn werth bron i £500,000 y flwyddyn, gan fynd yn uniongyrchol i’n heconomi leol. Golyga hyn mwy o swyddi lleol, gwell stryd fawr, economi gryfach a lle brafiach i fyw ac ymweld ag ef.
Mae’n syniad syml gwych, gyda phŵer anhygoel i wneud ein tref hardd yn fwy llewyrchus. Bob tro rwy’n ad-dalu masnachwr am dalebau a dderbynnir, mae fy nghalon yn llonni. Prynwch nhw, efallai i’w rhoi i athrawon ar ddiwedd y tymor, ffrindiau a theulu neu fel gwobrau raffl, gan sicrhau eich bod chi’n cefnogi masnachwyr lleol.”
Dywedodd y preswylydd lleol Martha Lee: ”Dwi wedi gwirioni ar y rhain, yn aml mae’n rhaid i mi brynu anrhegion bach i bobl ond rydw i eisiau iddyn nhw brynu rhywbeth maen nhw ei hangen neu ei eisiau. Gyda’r talebau gallant ychwanegu arian a’u defnyddio nid yn unig i brynu anrhegion, ond gallwch torri eich gwallt, prynu peint o gwrw neu hyd yn oed pwys o selsig!”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Caroline Roberts 01559 371262.
Yn y llun mae perchnogion Debbie’s Jewellery and Giftware, Cafe Cwtch, Stiwdio Gofal Croen a Thylino Edwina Jayne, Tivy Hall, Fair and Fabulous, Fabric House ac Ededa J.