Y Priordy’n Arloesi
BU penwythnos cyntaf mis Hydref yn amser cyffrous yn hanes Eglwys y Priordy Caerfyrddin pan lansiwyd ei phrosiect newydd sbon danlli ‘Arloesi ar Lein’.
Bu’r Priordy’n llwyddiannus yn ei chais am nawdd am gyfnod o bum mlynedd o Gronfa Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i’w galluogi i ymestyn ei thystiolaeth a’i chenhadaeth ymhellach drwy wneud defnydd arloesol a chynyddol o dechnoleg a chyfryngau digidol newydd.
Byddwn fel eglwys yn parhau i gwrdd ac addoli wyneb-yn-wyneb, wrth reswm, ond mae profiadau diweddar wedi’n hargyhoeddi fod angen i ni ymdrechu i ddal ati i gynnal ein darpariaeth ddigidol yr un pryd.
Bu’r ymateb i’n darpariaeth ar lein yn ystod y pandemig yn syfrdanol a’n nod yw adeiladu ar hyn i’r dyfodol. Teimlwn fod gan y dechnoleg newydd ran bwysig i’w chwarae i’n galluogi i estyn allan yn barhaus a denu Cristnogion newydd o bob oed yn ogystal â chynnal ein haelodau presennol.
Mae rhaglenni anturus yn llawn bywyd a lliw eisoes ar waith gennym ar gyfer oedolion a’r to iau, gydag arbenigwyr technolegol yn ein helpu i’w darparu. Hoffem eich gwahodd yn gynnes iawn i droi at Sianel Youtube ‘Gofalaeth Y Priordy, Cana a Bancyfelin’ ynghyd â’n tudalen Gweplyfr ‘Capel Y Priordy’ a’n cyfrif Trydar @ Capelypriordy i’w mwynhau, gan obeithio y byddant yn dod â boddhad a bendith i chi.
Paratowyd fidio deniadol ar gyfer y lansio gan Iestyn O’leary, un o blant yr eglwys sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Salford, Manceinion, a hwnnw’n crisialu’r cyffro sydd yn ein mysg ar hyn o bryd! Meddai’r Parchedig Betiwyn James, Gweinidog yr Eglwys, ar ddechrau’r cyfnod anturus hwn: ‘Rydym yn eithriadol o gyffrous o fedru datblygu’r wedd bwysig hon o weinidogaeth yr eglwys ac yn hynod o ddiolchgar i Raglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am y nawdd hael.’