Hunangofiant un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gâr
YR wythnos hon cyhoeddir hunangofiant yr amryddawn Arwyn Thomas, un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gaerfyrddin. Mae Mwy Nag Un Llwyfan (Y Lolfa) yn llawn straeon ffraeth sy’n adlewyrchu ei gymeriad triw, hwyliog a theyrngar a’i gariad tuag at ei filltir sgwâr.
Meddai Arwyn Thomas: “Mae hunangofiant yn dibynnu cymaint ar yr hyn sy’n fyw yn y cof, neu wedi ei gadw ar glawr yn rhywle, felly rwy’n ymwybodol bod bylchau a bod llawer o hanesion ar goll.”
Mae’r hunangofiant wedi’i gyflwyno i Alun Jones, ei ffrind a wnaeth annog iddo ysgrifennu’r gyfrol a chofnodi’r hanesion. Ceir hefyd cywydd arbennig gan Jim Parc Nest a chyflwyniad gan ei gyn-ddisgybl a chyn-aelod o staff Ysgol Maes-yr-yrfa, lle bu Arwyn yn brifathro am 25 o flynyddoedd (1972 – 1997).
Meddai Nigel Owens: “I Ysgol Maes-yr-yrfa rwy’n ddyledus am beth bynnag rwy i ‘di llwyddo i’w gyflawni yn y ‘mywyd cyhoeddus hyd yn hyn… Rwy’n siwv r y cewch chi wrth ddarllen y gyfrol hon, fel y ces i, gyfle i ddod i nabod y gwir Arwyn Thomas a dod i sylweddoli gymaint o ddoniau sydd ganddo. Cewch hefyd gyfle i werthfawrogi ei ffraethineb wrth iddo adrodd yr hanesion a digwyddiadau doniol y bu’n rhan ohonyn nhw yn ystod ei fywyd a mwynhau ei ddawn dweud wrth bortreadu rhai cymeriadau brith a gyfarfu.”
Mae Mwy Nag Un Llwyfan yn cofnodi ei blentyndod a’i lencyndod gwledig ar fferm Pantglas yn Sir Gaerfyrddin – a’r hanesion yn adlewyrchu cyfnod sydd bellach wedi diflannu. Ceir atgofion o’r fferm gan gynnwys y cynhaeaf gwair, wv yn swci’r fferm a storïau ffraeth am gerdded i’r ysgol. Mae’r hunangofiant yn rhannu straeon am ei gyfnod yn Ysgol Gynradd
Llanpumsaint, yr Ysgol Ramadeg yng Nghaerfyrddin ac yn y brifysgol yn Abertawe (1962 – 1965). Ceir hefyd hanesion am ei gyfnod yn Essex, lle bwriodd ei brentisiaeth fel athro ac ychwanegu at ei brofiad fel actor yn ogystal â chwrdd â’i wraig Jane. Daeth yn athro yn Ysgol Griffith Jones San Clêr (1965 – 1972) ac yna’n brifathro ar Ysgol Maes-yr-yrfa, gan arloesi wrth gyflwyno addysg drwy’r Gymraeg i ddisgybion Uwchradd yng Nghwm Gwendraeth. Ceir darlun ohono fel actor a chricedwr o fri a’i ddawn fel adroddwr storïau a dynwaredwr cymeriadau a disgrifiwyd gan Jim Parc Nest yn ei gywydd fel: Cof Arwyn y cyfarwydd,
Yr actor a’r athro rhwydd
Ei wers hiwmor, sy’ yma. Swydd ddi-dwyll hanesydd da Fu’i faes, ac fe safai e
Dros ethos iach Y Pethe.
Mae Arwyn Thomas yn awdur ar bum llyfr hanes lleol: Llyfr Hanes Bronwydd (2002); Hanes Llanpumsaint (2004); Carmarthen Golf Club – The Centenary Story / Hanes y Canmlwyddiant 1907-2007 (2007); Ysgol Gynradd Llanpumsaint – 150 mlwydd oed (2013); Cofio a Mwy – Hanes Ardal Llanpumsaint a Bronwydd (2017).