Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr
O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau. Wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol rydym eisiau clywed eich syniadau chi: https://tinyurl. com/7jaty8dt
Adweitheg Babi/plentyn:
Am y tro cyntaf erioed, mae’r Fenter yn cynnig dosbarthiadau Adweitheg Babi/plentyn. Mae’r gyfres o bedair wythnos yng ngofal Meleri Brown o Hafan Holistaidd yn cael eu cynnal yn Neuadd Gymunedol Ysgol Peniel. Mae’r gyfres hon yn llawn ond y bwriad yw cynnal cyfres arall yn y flwyddyn newydd. Os oes diddordeb gyda chi i fynychu’r sesiynau, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.
Coffi a Chlonc:
Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.
Clybiau Darllen:
Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg. cymru
NEWYDD! Helfa Drysor Nadolig:
Mae’r Fenter a’r Atom yn trefnu rhywbeth ychydig yn wahanol dros yr ŵyl eleni. Rydym wedi lansio Helfa Drysor Nadoligaidd ar hyd Stryd y Brenin, Caerfyrddin yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig. Yn cychwyn ar yr 20fed o Dachwedd hyd at y 3ydd o Ionawr. Er mwyn derbyn copi o’r helfa anfonwch neges at ymholiad@mgsg.cymru.
Cyfryngau Cymdeithasol:
Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:
Facebook - Menter Gorllewin Sir Gar Trydar - @Mentergsg
Instagram - @Mentergsg
E-bost - ceris@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris ar y ffôn: 07939 962042.