Merched y Wawr Caerfyrddin
Un o sêr S4C oedd gwestai cyntaf tymor yr Hydref. Dechreuodd Marion Fennar ei gyrfa fel actores mewn nifer o gynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru ond wrth gwrs mae’n fwy adnabyddus fel y Metron yn Pobl y Cwm am flynyddoedd.
Newid gyrfa fu ei rhan wedyn pan gafodd swydd yn gweithio i gwmni Estee Lauder ac fe’i gwelwyd yn aml yn Boots, Caerfyrddin. Wedi ymddeol, fe ail ymddangosodd ar S4C ar raglen Prynhawn Da yn rhoi cynghorion ar ddeunyddiau Harddwch a’r Croen. A dyna wnaeth hi gyda ni yn yr Atom - cynghorion ar gadw’r croen a’r llygaid yn iach, awgrymu samplau ac ateb cwestiynau.
Prynhawn diddorol a buddiol. Daeth criw da at ei gilydd a gorffennodd y prynhawn gyda phaned yng nghaffi’r Atom.
Wyneb cyfarwydd arall ar S4C oedd gyda ni yng nghyfarfod mis Tachwedd. Penderfynom ddathlu’r Nadolig yn gynnar drwy ymweld â’r Sied ger Nantgaredig. Yno roedd y perchennog, Lisa Fern yn rhoi arddangosfa o wahanol fwydydd blasus adeg y Nadolig neu unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn gyntaf bu’n tylino bara a’i dorri yn siapau bach hyfryd gan ychwanegu pob math o hadau a pherlysiau. Yn gwmni i’r bara gwnaeth patè mecryll.
Y prif gwrs oedd parseli mawr a bach o gig moch, selsig, stwffin, llugoerion a chyw iâr. Yn ogystal bu’n stwffio darnau o gyw iâr neu dwrci i’w gweini gyda spinoglys a mint.
Y trydydd cwrs oedd tartenni bychain o grwst pwff gyda llenwad o wahanol ffrwythau sych a ffres a hufen tew.
Ar ôl i’r cyfan gael ei goginio cawsom wledd i’w chofio.
I goroni ‘r cyfan buom yn ddigon ffodus i gael cwmni’n Llywydd Cenedlaethol, Jill Lewis. Mae Jill yn dod o Llanglydwen, Sir Benfro a chanddi gysylltiad agos â Chaerfyrddin - yn gyn fyfyrwraig yng Ngholeg y Drindod ac, wedi graddio yno, bu’n gweithio am gyfnod gydag un o’n haelodau, Rhian Evans yn Llyfrau Llafar Cymru. Erbyn hyn mae’n gweithio’n rhan amser i ‘r Mudiad Ysgolion Meithrin.
Diolchodd am y croeso ac roedd hi’n amlwg wrth ei sylwadau ei bod hithau, fel ninnau, wedi mwynhau prynhawn nodedig yn Y Sied.