Carmarthen Journal

Llyfr newydd Nadoligaid­d i addysgu plant am ffoaduriai­d

-

CYHOEDDIR Cyfrinach Noswyl Nadolig gan Eurgain Haf (Y Lolfa) yn barod at y Nadolig. Yn ogystal â stori hyfryd Nadoligaid­d mae i’r gyfrol wers bwysig iawn – sef i fod yn garedig i bawb, o bob cefndir a hil.

Mae Eurgain Haf, sy’n gweithio i’r elusen ryngwladol Achub y Plant, yn aml yn clywed straeon am bobl a phlant yn gorfod gwneud penderfyni­adau anodd i adael eu cartrefi a’u gwlad. Nid yw hi’n ddiogel iddyn nhw fyw yno oherwydd gwrthryfel, trais, erledigaet­h neu newyn.

Meddai’r awdures: “Roeddwn yn awyddus i ysgrifennu llyfr am ffoadur i godi ymwybyddia­eth o fywydau plant sy’n gorfod ffoi o’u cartrefi ac o’u cymunedau ac annog sgwrs ehangach am beth allwn ni ei wneud i’w helpu. Mae’n bwysig ceisio deall sefyllfaoe­dd rhai sy’n llai ffodus na ni a dysgu bod yn garedig.”

Yng nghefn y gyfrol mae nodiadau ar gyfer athrawon a rhieni, sy’n cynnig syniadau am rai o’r pethau y gellid eu trafod wrth ddarllen y llyfr.

“Mae gan bob plentyn yr hawl i deimlo’n ddiogel ac i gael ei amddiffyn. Mae gan bob plentyn yr hawl i gael addysg – ac i fod yn blentyn. Nid yw’r pethau yma’n hawliau naturiol yn rhai o wledydd y byd,” meddai Eurgain.

Ar draws y byd mae tua 26 miliwn o ffoaduriai­d, ac mae eu hanner nhw yn blant.

Mae’r rhan fwyaf yn ffoi o wledydd fel Syria, Affganista­n, Somalia a De Swdan. Mae nifer yn ffoi ar droed ac yn cerdded am ddyddiau, gan wynebu peryglon enbyd er mwyn cyrraedd gwersylloe­dd diogel i ffoaduriai­d.

Mae rhai ffoaduriai­d yn ceisio croesi i wlad arall mewn lori neu ar gwch bychan ac yn aml iawn mae’r daith yn beryg bywyd.

Mae Cyfrinach Noswyl Nadolig yn stori hudol sy’n datgelu bod anifeiliai­d medru siarad ar Noswyl Nadolig!

Mae amryw o anifeiliai­d caredig, gan gynnwys cath, tylluan wen, ci defaid ac asyn, yn helpu Samir, ffoadur sydd yn cysgu yn y dociau, i gerdded i Fethlehem yng Nghymru, at deulu caredig a fydd yn gofalu ar ei ôl.

Ceir lluniau hyfryd yr artist a’r dylunydd profiadol Sion Morris, sy’n rhoi naws arbennig i’r llyfr. Buodd Eurgain a Sion yn cydweithio ar y llyfr blaenorol, Y Boced Wag a oedd yn ymdrin â mabwysiadu.

Mae Cyfrinach Noswyl Nadolig gan Eurgain Haf ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa).

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom