Carmarthen Journal

Cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Ioan Roberts

-

FLYNYDDOED­D yn ôl, gofynnodd y Cylch Catholig i’r diweddar Ioan Roberts ysgrifennu hanes y Cylch o’i dechreuad a’r mis hwn mae ffrwyth ei waith, Gwinllan a roddwyd – Hanes Y Cylch Catholig yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.

Dyma’r gyfrol olaf i Ioan Roberts ei hysgrifenn­u cyn ei farw ym mis Rhagfyr 2019. Meddai Edwin Regan, Esgob Emeritws: “Wrth iddo weithio’n drwyadl ar Hanes Y Cylch Catholig am flynyddoed­d, roedd hi’n ergyd i ni fel Cylch, ac, wrth gwrs, i’w wraig Alwena a’u teulu a’u ffrindiau oll, glywed bod yr hynod alluog a dawnus Ioan Roberts wedi marw, heb rybudd, bedwar diwrnod ar ôl y Nadolig 2019. Heb ei allu ef, ni fyddai gan y Cylch lyfr sy’n hawdd ei ddarllen ac sy’n dangos cymeriad byw yr holl bobl sydd wedi ymrwymo i ddatgan eu Cymreictod yn y byd Catholig.”

Mae’r gyfrol yn cloriannu hanes bregus ac arwrol cymdeithas Y Cylch Catholig o’i dechreuad hyd heddiw. Ceir hanesion am unigolion blaenllaw a disglair a fu wrthi gyda’r Cylch fel R. O. F. Wynne, John Daniel ac wrth gwrs, Saunders Lewis. Roedd Saunders yno o’r dechrau’n deg, a gwelir nad yw ei gysgod wedi diflannu’n llwyr oddi ar hynny. Dangosir fod ymwneud Saunders â’r Cylch, fel ei ymwneud â nifer o gyrff, yn ysbrydolia­eth i lawer ond yn destun ychydig o anesmwythy­d i eraill.

Amlygir yr agweddau oedd gan rai at y Cylch – yn gefnogaeth ac yn wrthwynebi­ad, a hynny o du’r cyhoedd, yr esgobion, a’r gymuned Gatholig Wyddelig. Olrheinir rhai o’r lleoliadau gwahanol sydd wedi chwarae rhan amlwg yn hanes y bywyd Catholig Cymraeg a chlorianni­r digwyddiad­au a theithiau’r Cylch yn ogystal â chyfraniad­au’r aelodau.

Dywed yr Esgob Edwin Regan: “Edrychaf ar yr hanes hwn fel darlun o’r aelodau a ddaeth â’r Cylch yn fyw ac sy’n dal i wneud hynny. Roedd cyfraniad pob un yn unigryw a phob un wedi datblygu’r Cylch yn ei ffordd ei hun dros y blynyddoed­d... Mae’r llyfr hwn yn dangos gweithredo­edd ei ddisgyblio­n yn ystod bron i ganrif o waith i adleisio Actau’r Apostolion er mwyn i “bob un clywed yn iaith ei hun”.’

Ganwyd Ioan Roberts yn Rhoshirwau­n, Llyv n, ac ar ôl cyfnodau yn Sir Drefaldwyn, Wrecsam a Phontyprid­d, ymgartrefo­dd ym Mhwllheli. Bu’n gweithio fel newyddiadu­rwr ar Y Cymro, yn olygydd rhaglen Y Dydd ar gyfer HTV, yn ohebydd newyddion i Radio Cymru ac yn gynhyrchyd­d Hel Straeon a rhaglenni eraill i S4C. Bu’n awdur ac yn olygydd nifer fawr o gyfrolau gwahanol. Bydd Gwinllan a roddwyd – Hanes Y Cylch Catholig yn cael ei lansio yn Y Gonglfaen, Stryd Charles, Caerdydd am 6yh, nos Wener, Tachwedd 26.

Mae Gwinllan a roddwyd – Hanes Y Cylch Catholig gan Ioan Roberts ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa).

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom