Gwobrwyo Aelodau Iau a Hŷn y Flwyddyn CFFI Sir Gâr
Cystadleuaeth Aelod Iau y Flwyddyn
Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mrs Annwen Williams a Miss Elen Williams.
Neges gan y beirniaid:
Er mai ond tri aelod wnaeth gystadlu, fe all unrhyw un o’r tri wedi cael y teitl o aelod iau y flwyddyn CFFI Sir Gâr 2022.
Roedd y tri yn angerddol iawn dros y mudiad ac yn aelodau brwd o’i clybiau.
Llongyfarchiadau a diolch i’r tri am gystadlu – dylem fod yn browd iawn o’u hunain.
Celyn Richards o CFFI Penybont gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Iau CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2022. Mae Celyn yn 14 mlwydd oed – Blwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin sy’n mwynhau canu yn ei hamser hamdden.
Mae Celyn yn ysgrifennydd cofnodion ar y clwb ond hefyd yn ysgifennydd cofnodio ar Fforwm Ieuenctid y Sir eleni.
Un o brif uchafbwyntiau Celyn oedd cael cynrychioli Sir Gâr a Chymru mewn cystadleuaeth genedlaethol siarad cyhoeddus CFFI.
Er nad oeddwn yn gallu cwrdd i gystadlu efo’u gilydd, roedd hyn yn uchafbwynt iddi oherwydd roedd dal yn gyfle iddynt gystadlu fel mudiad wrth ddefnyddio Zoom, sydd wedi dod yn beth fawr yn ein bywydau dros y cyfnod clo.
Uchelgais Celyn tu allan y CFFI yw llwyddo mynd i’r brifysgol i astudio cerdd a Chymraeg, ac i ddychwelyd nôl i’w milltir sgwâr i fyw a gweithio, ac yna fe ddaw’r cyfle iddi rhoi nôl i’r mudiad wrth hyfforddi a helpu pobl ifanc y dyfodol.
Cystadleuaeth Aelod Hyv n y Flwyddyn
Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mr Siôn Jenkins a Mr Gethin Havard.
Neges gan y beirniaid:
Er mai ond pump aelod wnaeth gystadlu yn y gystadleuaeth yma, fe gall unrhyw un o’r pump wedi cipio’r teitl o aelodv hyn y flwyddyn. Roedd y pump yn angerddol iawn dros y mudiad ac maent wedi gwneud gwaith gwych iawn dros eu clybiau, dros y sir a’i chymuendau. Roedd gan yr aelodau syniadau o sut i ddatblygu’r mudiad a gobeithio bydd y pump aelod yn dilyn y gweledigaethau yma. Llongyfarchiadau i’r pump am gystadlu – dylem fod yn browd iawn o’u hunain.
Ifan Williams o CFFI Llangadog gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Hyv n CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2022. Mae Ifan yn 24 mlwydd oed ac yn gwerthwr amaethyddol yn Llanybydder.
Swyddi mae Ifan wedi’i ddal ar lefel clwb – ysgrifennydd cofnodion, ysgrifennydd y wasg, ysgrifennydd cymdeithasol, trysorydd, is-gadeirydd a chadeirydd.
Swyddi ar lefel sir – Aelod Iau y Flwyddyn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Ifan wedi cystadlu ar lefel sirol a Chymru mewn chystadleuthau barnu stoc yn Sioe Ffair Aeaf, Eisteddfod, Cwis y Sir a Noson Chwaraeon y Sir.
Uchelgais Ifan tu allan y CFFI yw cwblhau cwrs SQP a fydd yn ei alluogi i ddatblygu o fewn y busnes mae’n ei weithio a fydd yn caniatau iddo allu trafod a gwerthu meddyginiaethau anifeiliaid, gan geisio sicrhau dyfodol iddo yn y sector amaethyddiaeth sydd yn hollol bwysig iddo.
Llongyfarchiadau mawr i’r ddau a phob lwc iddynt ar lefel Cymru sy’n cael ei gynnal ar benwythnos Siarad Cyhoeddus CFFI Cymru ar y 27ain o Fawrth yn Llanelwedd.