■ Cwis Dim Clem y Mentrau
Iaith yn denu’r nifer uchaf o gystadleuwyr eto! Mae 188 o ysgolion ar draws Cymru gyfan wedi cystadlu yn Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith eleni, a dros 3,500 o blant wedi bod yn ateb cwestiynau heriol a hwyliog mewn sawl rownd cyn gallu ennill lle yn y rownd derfynol gynhaliwyd heddiw [28.03.22]. Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru sydd fel rheol yn digwydd wyneb yn wyneb, ond am yr ail dro wedi gorfod cynnal yn rhithiol eleni. Mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn cynnal y Cwis o fewn eu hardaloedd ers cyn y Nadolig, a phawb yn ymgeisio am gyfle i gystadlu yn y rownd genedlaethol. Cwis feistri y rownd derfynol genedlaethol oedd Mari Lovgreen, cyflwynwraig boblogaidd ar S4C, ac Owain Williams, cyflwynydd egnïol Stwnsh Sadwrn. Dywed Mari: “Roedd hi mor hyfryd gallu cynnal y Cwis hwn eleni a chael gweld y plant yn eu timoedd ar y sgrin. Roedd egni y plant bron i’w deimlo, a’u brwdfrydedd yn cymryd rhan yn amlwg iawn. Roedd ‘na sawl cwestiwn ro’n i’n cael trafferth eu hateb, ond ro’dd y plant fel petai wedi cael hwyl dda iawn arni!” Daeth 6 ysgol ynghyd i gystadlu yn erbyn ei gilydd dros dechnoleg Teams ar fore’r 28ain o Fawrth – gyda dwy ysgol yn cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru o Lanfairpwll ar Ynys Môn ac o Drefeglwys yn Maldwyn; dwy ysgol o’r de orllewin sef Teilo Sant, Llandeilo ac ysgol gynradd Aberaeron; ac yna dwy ysgol o’r de ddwyrain – y pencampwyr cyfredol o Ysgol Pen Cae, Caerdydd a Cynwyd Sant o Faesteg. Roeddynt i gyd ar dân eisiau curo a phrofi eu hunain fel y tîm mwyaf peniog yng Nghymru, a’r tîm lwyddodd i gael y mwyaf o bwyntiau oedd Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru: “Mae Cwis Dim Clem yn gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith Gymraeg a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn fel hyn. Ry’n ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fowr’ fis Medi.”