Eisteddfod Mynyddygarreg 2022
Sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth yn sgil Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd a gynhaliwyd yn 1989 yng Nghwm Gwendraeth.
Un o blant Menter Cwm Gwendaeth Elli, fel ei gelwir erbyn hyn, yw Eisteddfod Mynyddygarreg a mawr yw dyled yr Eisteddfod I’r Fenter am y gefnogaeth a dderbyniwyd ar hyd y blynydde.
Bu cyfnod y pandemig yn gyfnod diffwryth iawn ym myd yr eisteddodau, bach a mawr, ond mae’r cymylau wnaeth dywyllu’r elfen yma o ddiwylliant Cymru i weld erbyn hyn yn diflannu o gam i gam.
Braf, felly, yw medru dweud y bydd Eisteddfod Mynyddygarreg yn ail gydio unwaith eto nos Wener yma sef 13eg o Fai. Ein gobaith yw gweld y neuadd yn llawn o gystadleuwyr, rhieni, ffrindiau a phobol sydd am wledd o ganu, dawnsio, adrodd ayyb.
Mae pob eisteddfod debyg yn cynnig cyfleoedd diwylliannol I bob oed yn y gymuned a thu hwnt. Mae Eisteddfod Mynyddygarreg wedi elwa ar hyd y blynydde o’r gefnogaeth a gafwyd gan ysgolion yr ardal, pobol leol a nifer o ffyddloniaid yr eisteddfodau bach.
Eisteddfod gadeiriol yw hi bellach a gobeithio y bydd cadeirio eleni eto. 2019 oedd y tro dwetha ni gynnal yr eisteddfod yma pan gadeiriwyd Megan Richards o Aberaeon.
Nona Breeze o Gaernarfon gipiodd y gadair yn 2018. Les Barker o Bwlchgwyn, Wrecsam oedd yn fuddugol yn 2017 a ef enillodd yn 2016 yn ogystal – y tro cynta Iddi fod yn eisteddfod gadeiriol.
Mae rhaglen amrywiol eleni eto o ganu, llefaru, dawnsio ac offerynnol. Cystadleuthau ar gyfer plant o oed dosbarth derbyn lan hyd cystadleuthau I’r oedolion wrthgwrs. Pob cystadleuaeth yn agored o safbwynt dewis. Mae dwy gystadleuaeth o dan ymbarel “Sgenti. Dalent” un o dan 16 a’r llall dros 16. Mae’r ddwy yma yn agored i unigolion neu grwpiau.
Ceir pedair munud i ddiddanu’r gynulleidfa drwy ganu, llefaru, dawnsio, actio, chware offeryn neu berfformio unrhyw beth fydd yn difyrru’r gynulleidfa.
Cerdd gaeth neu rydd ar y testun Y Gwir Yn Erbyn Y Byd yw cystadleuaeth y gadair. Y Senedd yw testun yr Englyn, Roedd dyn yn byw ar y Mynydd yw llinell gynta y Limrig a FF.O.S.L.A.S yw sialens ysgrifennu brawddeg.
Mae hefyd gystadleuaeth arlunio (hunan ddewisiad) ar gyfer y plant o oed derbyn hyd blwyddyn chwech. Y beirniad ar gyfer y gystadleuaeth hon yw Sharon Evans.
Madge Daniels fydd yn cadw golwg ar y dawnsio, Davinia Davies ar y canu a bydd cystadleuthau llefaru a llen yn wylo Aneirin Karadog. Bydd y tîm yn beirniadu cystadleuthau Sgen Ti Dalent.
Cyfeilydd ers blynyddoedd yw Geraint Rees sydd hefyd yn aelod o’r pwyllgor.
Gobeithio’n wir bydd Eisteddfod Mynyddygarreg 2022 yn medru goroesi gwacter y blynyddoedd diwethaf yn hwylus.