Cyfrol yn dadlennu gwybodaeth newydd am enw ac arweinydd cyntaf merched Becca
Er bod sawl cyfrol Saesneg o safon wedi eu cyhoeddi ar helynt y Becca, dim ond un gyfrol fer yn y Gymraeg oedd ar gael – tan nawr.
Mae Ar Drywydd Twm Carnabwth – Arweinydd Cyntaf Merched Becca yn gofnod dadlennol ac astudiaeth fanwl o fywyd Thomas Rees (Twm Carnabwth), am y dylanwadau fu arno, am hanes a naws y fro, ac am yr holl anghyfiawnderau a’r tlodi a arweiniodd at y terfysgoedd yng nghanol y 19eg ganrif.
Mae llyfr newydd gan Hefin Wyn am hanes Merched Becca yn profi unwaith ac am byth nad oedd gan yr adnod honno o Lyfr Genesis y cyfeirir ati byth a hefyd ddim oll i’w wneud ag enwi Mudiad y Becca.
Ceir esboniad llawer symlach ac ymarferol, sef bod dynes fawr o gorff oedd yn byw gerllaw wedi benthyg ei dillad isaf i Twm – Rebecca Phillips.
Dangosir y dystiolaeth ar sail gwybodaeth a ganfuwyd yn y Cyfrifiad cyntaf hwnnw yn 1841. Cyflwynwyd tipyn o wybodaeth newydd ar sail ffynonellau Cymraeg eu hiaith nad oedd haneswyr cynt wedi’u canfod.
Meddai’r awdur Hefin Wyn: “Hyderaf y gwêl y darllenydd fod Twm Carnabwth er ei fynych gamweddau hefyd yn arwr ac yn arweinydd yr oedd ar Gymru ei fawr angen yn ei gyfnod.”
Datgelir ffeithiau am y tro cyntaf erioed, erthyglau ac ysgrifau o’r cyfnod, dyfyniadau, ynghyd â cherddi a chaneuon am arweinydd cyntaf y Becca. Prif nod Hefin Wyn wrth lunio’r gyfrol oedd datgelu mwy am Twm Carnabwth ac i gyfleu naws y cyfnod mewn arddull hygyrch. Dyma gyfrol bwysig, nid yn unig am unigolyn canolog yn hanes Cymru, ond am sefyllfa’r oes a bywyd y trigolion yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.
Meddai Glen George yn ei gyflwyniad: “Mae stori’r Becca bellach yn rhan o fytholeg y Preseli ond ychydig a wyddys am y prif actorion… Hyderaf y bydd cyhoeddi’r gyfrol hon yn fodd i chwalu tipyn o’r niwl sy’n dal i chwilio o amgylch bwthyn Carnabwth”
Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn rhan o’r prosiect hefyd bydd bwrdd dehongli yn cael ei osod ar ben feidr Glynsaithmaen. Y gobaith yw bydd yna waddol wrth i weithgareddau megis teithiau cerdded gael eu trefnu i gadw’r cof am Helynt y Becca yn lleol ar gof a chadw.
Bydd Ar Drywydd Twm Carnabwth yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Wener, 13eg o Fai yng Nghaffi Beca, Efailwen, Clynderwen. Manylion llawn isod.
Mae Ar Drywydd Twm Carnabwth – Arweinydd Cyntaf Merched Becca gan Hefin Wyn ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).