Carmarthen Journal

‘Mae gobaith yn tyfu pan rwyt ti’n credu yn yr amhosib’ – nofel gyntaf Caryl Lewis i’r arddegau cynnar

-

Ar ôl ennill cytundeb gyda chyhoeddwy­r byd-eang Macmillan, mae’r awdures a’r sgriptwrai­g Caryl Lewis ar fin cyhoeddi ei nofel Hedyn, a hynny yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Dyma nofel gyntaf Caryl ar gyfer plant 9 i 13 oed.

Dyma hefyd y nofel gyntaf Gymraeg i gynnwys cymeriad byddar. Derbyniodd Gracie, ffrind gorau Marty (y prif gymeriad) ddiagnosis nam ar ei chlyw pan oedd hi tua thair oed.

Meddai Caryl Lewis: “Mae hi’n bwysig iawn i blant o bob cefndir a phlant sy’n wynebu heriau penodol gael gweld eu hunain mewn llyfrau, a bod y gynrychiol­aeth honno yn grwn ac yn realistig. Mae Gracie yn rhan annatod o’r stori – yn gymeriad cryf a doniol sydd hefyd yn cael pyliau o ddiffyg hyder, fel pob plentyn arall.”

Nofel ddoniol, anghyffred­in, sy’n ysbrydoli a hefyd yn codi pynciau dwys, mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydi­on.

Mae Hedyn yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod â Seed, y fersiwn gwreiddiol

Saesneg. Meddai Meinir Wyn Edwards, addasydd y nofel:

“Mae Hedyn yn antur chwareus, twymgalon ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2/3, sy’n pontio oed cynradd ac uwchradd. Roedd addasu’r nofel o’r Saesneg yn her, yn bleser ac yn fraint, ac ro’n i wrth fy modd yn cydweithio â Caryl a dysgu rhywfaint am y broses olygu mewn gwasg enfawr fel Macmillan. Mae’n stori hudolus gall plant ac oedolion ymgolli’n llwyr ynddi ac mae’n aros yn y cof am amser hir ar ôl gorffen ei darllen.”

Mae Hedyn yn mynd â’r darllenwyr i fyd Marty a’i dad-cu. Does ganddyn nhw ddim llawer, ond mae gan ei fam lawer gormod – mae’n cadw popeth, a’r tŷ yn orlawn o annibendod o stwff diangen. Mae Marty yn ceisio edrych ar ei hôl hi, ond mae’n mwynhau dianc o’r tŷ i hafan rhandir Tad-cu.

Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn yn anrheg gan ei dad-cu, hedyn hudol. Nid yw Tad-cu wedi bod mor gyffrous ers iddo ddyfeisio’r crafwr pen ôl yn 2000 neu ers iddo feddwl iddo lwyddo i greu tanwydd arbennig o ddail rhiwbob! Mae gan Tad-cu gynllwyn sy’n ymwneud â dymuniadau, byd y dychymyg a thaith anarferol i’r ddau a Gracie.

Meddai Caryl Lewis: “Nofel am bosibilrwy­dd diddiwedd y byd, a phŵer hudol ac ymarferol y dychymyg yw hon. Rwy’n gobeithio bydd y nofel yn annog plant a’u hatgoffa bod y byd, er gwaethaf digwyddiad­au erchyll diweddar, yn lle llawen a rhyfeddol i fyw ynddo.”

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom