Dau ddigwyddiad Menter Gorllewin Sir Gâr yn cael eu cynnal eleni!
Ras Bryndioddef 2022:
Fel sawl digwyddiad cymunedol arall dros Gymru, nid yw Ras Bryndioddef wedi cymryd lle ers 2019, ond eleni ar 21ain o Fehefin am 6yh mae’r ras yn dychwelyd i Gastell Newydd Emlyn ac yn cychwyn o Ysgol y Ddwylan.
Fe gafodd y ras ei chynnal am y tro cyntaf yn 1976 felly rydym yn edrych ymlaen at gynnal y ras yn 2022.
Am y tro cyntaf eleni mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gyfrifol am y ras yn dilyn gwaith ffantastig Adran Emlyn a rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad.
Ras i’r teulu cyfan (£2 y person i gystadlu).
Bydd angen rhiant i redeg gyda phlant blwyddyn 1 ac iau. Cofrestru ar y noson gyda bwyd ar gael i’w brynu.
Am fwy o wybodaeth am Ras Bryndioddef, cysylltwch gyda nia@ mgsg.cymru
Gŵyl Canol Dre 2022: Cynhelir Gŵyl Canol Dre ym Mharc Myrddin, Waun Dew ar y 9fed o Orffennaf 2022 ac mi fydd yn cychwyn am 11yb ac yn parhau tan 8yh.
Bydd yr ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant wedi ei hanelu at deuluoedd a phobl ifanc yr ardal a thu hwnt.
Bydd Gŵyl Canol Dre yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb.
Mi fydd yna brif lwyfan lle bydd bandiau adnabyddus o’r sîn roc Gymraeg yn perfformio ynghyd â’r llwyfan berfformio bydd yn cynnwys perfformiadau amrywiol gan ysgolion yr ardal, sioe gan Mewn Cymeriad a Siani Sionc.
Bydd yna amrywiaeth o weithgareddau difyr a bywiog yn digwydd drwy gydol y dydd megis, sesiynau chwaraeon, sesiynau celf a chrefft, gweithdai llên gydag Anni Llŷn, sesiynau stori a chân, gweithdai digidol, gemau a Clocs Ffit gyda Tudur Phillips, disgo distaw, gweithdai drama a dawns a mwy!
Hefyd mi fydd stondinau ar y maes lle bydd busnesau yn gwerthu nwyddau a chynnyrch a mudiadau lleol yn hyrwyddo eu gwasanaethau. Bydd yna far ac ardal arlwyo yn cynnig amrywiaeth o fwydydd sy’n addas at bawb.
Mae mynediad am ddim i’r ŵyl, felly edrychwn ymlaen at eich cwmni ar y 9fed.
Am fwy o wybodaeth am Gŵyl Canol Dre, cysylltwch gyda gwawr@ mgsg.cymru