Tudalen Gymraeg
Ni nôl! Mae’r côr nôl yng nghapel y Priordy yn ymarfer fflat owt ers rhai wythnosau bellach. Dim rhagor o ganu drwy fwgwd; dim rhagor o ganu gyda 2 fetr rhyngom i gyd - gallwn glywed lleisiau ein gilydd eto a chael rhannu gwên a choflaid! Ac mae cynlluniau ar y gweill yn barod…
Byddwn yn mynd i Dregaron a chystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y Sadwrn cyntaf cystadleuaeth y corau cymunedol. Er mwyn gallu bod yn gymwys i gael cymryd rhan yn hwn mae’n rhaid ein bod wedi cystadlu mewn o leaif 3 eisteddfod leol - a ninnau’n gôr sydd yn hapus i gefnogi eisteddfodau lleol yn ein cymuned, dyw hyn heb fod yn broblem i Gôr Seingar!
Mae hi mor braf gweld aelodau newydd wedi ymuno â ni - mae’n amlwg bod pobol y dref hon a thu hwnt, yn ysu i gymdeithasu unwaith eto, a dy’n ni mor falch croesawu ystod o leisiau i’n plith. Cadwch lygad mas amdanom ar lwyfan y genedlaethol felly… ond cyn hynny…
Bydd Côr Seingar yn canu yng Ngŵyl Canol Dre - mae’r ŵyl yn ei hôl eleni, ac wrth gwrs mae’r côr ond yn rhy falch i allu canu yno felly gwnewch yn siwr i ddod draw i ddweud helo ar 9fed Gorffennaf!
Rydym hefyd wedi dechrau ar ymarferion ar gyfer bod yn rhan o ddrama lwyfan yr awdur Dafydd James - Tylwyth. Dyma’r ddrama oedd ar fin dod i Theatr y Ffwrnais gyda’r côr yn canu gefn llwyfan iddi, pan darodd Covid-19 a bu rhaid rhoi stop ar y cwbwl. Ond bydd hi nol yn
Llanelli fis Hydref - sicrhewch eich tocynnau!
Mae’r rhyfel sydd yn parhau yn yr Wcráin wedi bod ar ein meddyliau ni gyd, mae nifer yng Nghymru wedi cynnig lloches i drueiniaid y wlad honno. Braint oedd gwahodd un wraig sydd o’r wlad honno ond sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin, draw atom i glywed ni’n canu hwiangerdd yn yr iaith Wcraneg. Fe gafon ni glywed hanes ei theulu yn trio dianc o’r wlad draw ati yma yng Nghaerfyddin, ac fe gafodd hithau wrando arnom yn canu, gyda dagrau yn ei llygaid.
Mae croeso mawr i chi ymuno gyda ni yng Nghôr Seingar - rydym yn cwrdd bob nos Fawrth yng nghapel y Priordy am 7.30 croesawu lleisiau SATB.