Carmarthen Journal

Taith i Armenia

- GAIR O’R GORLLEWIN Meinir Ffransis

Ni newydd ddychwelyd o wyliau byr yn Armenia; gwlad o rhyw dair miliwn o bobl, gwlad gyda mynyddoedd a llynoedd hardd a phobl groesawgar a chynnes. Gwlad gyda’i hiaith a’u diwylliant unigryw sydd wedi dioddef gormes a thrais dros ganrifoedd hir. Roedd y gymhariaet­h gyda Chymru yn amlwg ar yr wyneb, ond mor dorcalonnu­s o drist oedd eu hanes nhw dros y can mlynedd ddiwethaf a mwy.

Wrth deithio drwy Armenia mae hanes y wlad o’ch cwmpas ym mhob man. Mae’r mynyddoedd yn llawn o fynachlogy­dd hynafol, yn aml wedi eu cuddio mewn dyffrynoed­d anghysbell, a’u hymffrost yw mai hon yw y genedl Gristnogol gyntaf yn y byd, gyda’r eglwys Gristnogol gyntaf y tu fas I Jerusalem.

Buont yn rhan o’r Undeb

Sofietaidd ac mae’r blociau anferth concrit yn y trefi a’r dinasoedd yn tystio I’r dylanwad hwn. Yn wahanol I’r gwledydd o’u hamgylch nid oes yma olion Rufeinig oherwydd na chawson nhw eu concro gan y Rhufeiniai­d, ond cawsant eu gormesu gan un ymerodraet­h ar ôl y llall oddi ar y cyfnod hynny. Y prif ormeswr yn eu hanes yw Twrci, ac mae’r gyflafan a ddioddefas­ant ar ddechrau’r 20fed ganrif wedi cael ei gydnabod gan wledydd ar draws y byd fel “genocide”. Gwnaeth llywodraet­hau Cymru a’r Alban ei gydnabod felly, ond nid yw Llywodraet­h y Deyrnas Unedig wedi bodloni gwneud hynny oherwydd nad ydynt am dramgwyddo Twrci.

Cyn y gyflafan roedd Armenia yn wlad fawr yn cynnwys mynydd enwog Ararat, mynydd sydd o bwys tragwyddol I’r Armeniaid oherwydd mai disgynyddi­on Noa ydynt fel cenedl. Yr Ymerodraet­h Foslemaidd Ottoman oedd yn eu rheoli, ac roeddent yn dioddef nifer o ymosodiada­u gan y Twrciaid drwy’r 19eg ganrif. Dwyshaodd casineb y Twrciaid tuag atynt pan ddymchwelo­dd yr ymherodrae­th Ottoman, oherwydd fod nifer o Armeniaid wedi brwydro ar ochor y Rwsiaid a’r cynghreiri­aid. Cychwynodd y lladd a’r dinistr ar raddfa fawr yn erbyn yr Armeniaid a chollwyd o leiaf miliwn a hanner o’u pobl yn ystod y lladdfa. Gan mai Rwsia oedd yn fuddugol, roedd gobaith gan yr Armeniaid y byddai’r Llywodraet­h gomiwnyddo­l newydd yn eu hamddiffyn rhag dialedd y Twrciaid. Cawsant addewidion gan lywodraeth­au’r gorllewin (gan gynnwys Lloyd George) y byddent yn cael eu hamddiffyn, ond cael eu bradychu fu eu hanes. Roedd Lenin yn awyddus I gymodi gyda Thwrci yn y gobaith y byddai’r wladwriaet­h newydd yno yn coleddu’r egwyddorio­n comiwnyddo­l. Rhoddodd Lenin 70% o diriogaeth Armenia I Twrci (gan gynnwys mynydd Ararat) a pharhau wnaeth y lladd a’r dinistr ar y bobl Armenaidd ac ar eu creiriau hanesyddol. O’r 10 miliwn o boblogaeth Armenia collwyd 7 miliwn, naill ai drwy eu lladd, neu drwy eu halltudio I wledydd dros y byd. Hyd heddiw ceir cymunedau Armenaidd mewn nifer fawr o wledydd, ac mae’r diaspora hyn yn rhoi cymorth anferth I “hen wlad eu tadau”.

Yn wahanol iawn I Gymru, mae’r Armeniaid yn cofio a pharchu eu hanes a’u harwyr. Ceir cerfluniau anferth ym mhob twll a chornel I gofnodi eu harwyr, eu chwedlau, eu beirdd a’u llenorion. Trwy’r brifddinas Yeravan mae posteri anferth gyda lluniau a dyfyniadau gan eu harwyr e.e. posteri anferth o Charles Aznavour y canwr enwog ac Armeniaid enwog o dros y byd sydd wedi gwneud dyfeisiada­u pwysig. Mae’r plant yn yr ysgolion yn cael eu dysgu am eu hanes, gyda’r pwyslais ar y ffaith eu bod wedi goroesi ac yn barod I wynebu’r dyfodol yn ffyddiog.

Er hynny, mae eu sefyllfa yn parhau I fod yn fregus iawn, gyda gwlad anferth Twrci yn dal yn fygythiad. Hyd yn oed yn 2020, pan ddechreuod­d y pandemig, manteisiod­d glwadwriae­th Twrcaidd Azerbajan ar y dryswch I erlid yr Armeniaid oedd yn byw y tu fewn I’w ffiniau. Mae gan yr Armeniaid draddodiad hynod o greu cerrig bedd anferth, Katchcar (yr un elfen “car” ac sydd yn carreg?) gyda chroesau o bob math wedi’u cerfio arnynt. Daw’r enghreifft­iau cynharaf o’r 4edd ganrif ac mae’r traddodiad yn parhau hyd heddiw. Roedd mynwent anferth ohonynt yn y rhan Armenaidd a ddygwyd gan Azerbajan, ond yn 2020 danfonwyd milwyr Azeri I erlid y boblogaeth Armenaidd o’u cartrefi a dinistriwy­d yn llwyr dros 10 mil o’r cerrig hynafol. Syllu ar draws y ffin mewn tristwch ac anobaith oedd yr unig beth a allai’r Armeniaid ei wneud. Erbyn hyn does dim cymunedau Armenaidd yn y wlad a fu’n eiddo iddynt yn Nhwrci nac Azerbajan, cawsant I gyd eu herlid oddi yno neu eu lladd. Ond parhau I adleisio geiriau cân enwog Dafydd Iwan a wnânt, eu bod “Yma o hyd”!

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom