Carmarthen Journal

Annog pob ysgol yn Sir Gâr i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2023

- GAIR O’R GORLLEWIN

MAE Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, yn dod i Sir Gaerfyrddi­n ym mis Mai 2023 ac i ddathlu hyn, mae Cyngor Sir Gâr wedi gosod her i bob ysgol yn y sir; cynradd, uwchradd, arbennig, cyfrwng Saesneg a Chymraeg i gystadlu yn yr Eisteddfod.

Os byddwn yn cyflawni’r her yma, dyma fydd y tro cyntaf i bob ysgol o fewn un sir i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae Cyngor Sir Gâr yn arwain partneriae­th fydd yn cefnogi’r ysgolion i gystadlu, yn enwedig yr ysgolion sydd ddim yn gyfarwydd gyda chystadlu yn yr Eisteddfod. Mae yna bob math o gystadlaet­hau ar gael; o ganu, adrodd ac actio ar lwyfan, i ddawnsio, celf a chrefft a hyd yn oed gwallt a harddwch. Mae yna gystadlaet­hau sy’n agored i bawb a rhai sy’n agored i ddysgwyr Cymraeg yn unig. Mae Cyngor Sir Gâr eisiau i bob plentyn yn y sir gael y cyfle i gystadlu, gan fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl yn Gymraeg.

Ymhlith y cyrff sydd yn cefnogi’r prosiect mae Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr, Menter Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth Elli, Yr Egin, Yr Atom, Cyngor Sir Gâr a Choleg Sir Gâr.

Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet y Cyngor i gyfrannu £80,000 i Eisteddfod Genedlaeth­ol yr Urdd 2023, yn ogystal â chymeradwy­o cyllideb o £100,000 i dalu am unrhyw gostau uniongyrch­ol ychwanegol yn gysylltied­ig â’r digwyddiad sy’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Er mai dyma fydd yr wythfed tro i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Sir Gâr, dyma’r tro cyntaf i Lanymddyfr­i groesawu’r ŵyl.

Fel un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, caiff ei chynnal dros Ŵyl Banc y Gwanwyn, rhwng 29 Mai a 3 Mehefin. Mae’n denu oddeutu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn hanesyddol mae’n cyfrannu hyd at £6 miliwn i economi leol y sir sy’n ei chynnal, gyda’r diwydiant lletygarwc­h yn elwa’n fawr iawn.

Disgwylir y bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu fel rhai sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol yr Eisteddfod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Rwy’n disgwyl ymlaen yn eiddgar i groesawi Eisteddfod yr Urdd 2023 yn ôl i Sir Gâr. Fe fydd yr Eisteddfod yma yn gyfle arbennig i holl blant ein sir ni i brofi a mwynhau’r hyn sydd yn arbennig am ein diwylliant yng Nghymru.

“Hoffem felly achub ar y cyfle yma i annog holl ysgolion y sir i roi cynnig arni a chystadlu; mae yna lu o wahanol gystadlaet­hau a fydd yn gweddu at dalentau pob disgybl.

“Mae cymorth ar gael i’r ysgolion hynny sydd ddim yn gyfarwydd â ymgeisio i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac rwy’n annog y rheini i gysylltu gyda’r Cyngor ar yr e-bost iaithgymra­eg@sirgar.gov.uk”

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom