Carmarthen Journal

Statkraft yn cyrraedd carreg filltir o £1m ar gyfer cronfa gymunedol Fferm Wynt Alltwalis

-

MAE Statkraft, cynhyrchyd­d ynni adnewyddad­wy mwyaf Ewrop, wedi cyhoeddi bod y gronfa gymunedol sy’n gysylltied­ig â’i Fferm Wynt yn Alltwalis bellach wedi dyfarnu dros £1 miliwn i glybiau, cymdeithas­au, a sefydliada­u yn ardal Llanfihang­el-ararth.

Lleolir Fferm Wynt Alltwalis, a ddaeth yn weithredol yn 2009, ac sy’n pweru tua 16,500 o gartrefi ag ynni adnewyddad­wy glân wedi’i gynhyrchu gartref, ger Coedwig Brechfa, i’r gogledd o Sir Gaerfyrddi­n, de Cymru.

Mae’r gronfa ar gael drwy gydol oes 25 mlynedd y fferm wynt ar gyfer blaengared­dau a fydd o fudd i’r gymuned leol, â swm blynyddol sy’n codi’n flynyddol yn unol ag unrhyw gynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Mae’r prosiectau sydd wedi cael cymorth grantiau yn 2022 yn cynnwys adnewyddu Ysgol Alltwalis yn gyfleuster cymunedol, ariannu offer ar gyfer y clwb cinio yn Festri Tabernacl Pencader, gosod byrddau picnic a bwrdd cyfathrebu yn y Pafiliwn ym Mhencader, a chymorth i’r Cylchoedd Meithrin yn Llanllwni a Phencader, sef y fenter a aeth â’r gronfa dros y llinell miliwn o bunnoedd.

Rheolir y gronfa yn annibynnol o Statkraft, a chaiff ei harwain gan drigolion lleol sy’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau.

Mae ei nodau’n cynnwys ariannu gweithgare­ddau a phrosiecta­u sy’n creu cymuned fywiog, gan gynnwys y rhai sy’n canolbwynt­io ar brosiectau amgylchedd­ol, addysgol a chymunedol, â gweithgare­ddau awyr agored yn eu plith.

Mae sefydliada­u yn ardal Llanfihang­el-ar-arth yn gymwys i ymgeisio am grantiau o’r gronfa, a bydd y dyddiadau cau ar gyfer y pedwar cyfnod ymgeisio yn ystod 2023 ar 31 Ionawr, 18 Ebrill, 27 Mehefin, a 3 Hydref. Dylai ymgeiswyr gysylltu â gweinyddwr­aig y gronfa, Meinir Evans, ar 01559 395 669 neu meinir. evans@btinternet.com i gael rhagor o wybodaeth.

Dywedodd Glyn Griffiths, Rheolwr Safle Statkraft yn Alltwalis: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y gymuned leol yn dal i elwa o’r gronfa a sefydlwyd pan adeiladwyd safle Alltwalis dros ddegawd yn ôl.

Yn ogystal â darparu ynni glân, gwyrdd, adnewyddad­wy, mae’n bwysig fod Statkraft yn gymydog da, a bod y rhai sy’n byw ger ein safleoedd yn elwa’n uniongyrch­ol, ac felly rwy’n falch ein bod ni wedi gallu cefnogi cymaint o achosion a mentrau teilwng yn yr ardal leol.”

Dywedodd Dewi Thomas, Cadeirydd Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis: “Mae’r garreg filltir hon yn teimlo fel cyfle i bwyso a mesur ac edrych yn ôl ar yr ystod amrywiol o brosiectau a gefnogwyd ers sefydlu’r gronfa; maent yn cynnwys dosbarthu bwyd ffres yn ystod y pandemig, cynorthwyo gofalwyr ifanc i gael seibiant o’u dyletswydd­au a helpu i ariannu bws mini newydd ar gyfer clwb canwio lleol. Mae’r arian hwn yn parhau i wneud gwahaniaet­h go iawn i’r bobl sy’n byw ac sy’n gweithio yn ein cymuned leol.”

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom