Hapus wrth ei hun mewn breuddwyd roc a rôl?
“’RY’N ni’n meddwl dechre grŵp,” medde Iestyn (Garlick) wrtha i un diwrnod rhwng darlitho’dd... “Pam lai?” medde fi, a dyma ddechre ar ’y mherthynas i â’r byd adloniant Cymraeg.”
Felly mae Cleif Harpwood yn ei dweud hi, ac mae ei hunangofiant, Breuddwyd Roc a Rôl? (Y Lolfa) yn dweud llawer mwy hefyd. Mae’n rhyfedd sut mae moment mor ymddangosiadol fach yn gallu dal cymaint o ystyr wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt, oherwydd roedd y foment hon yn foment fawr mewn gwirionedd. Dyma ysbardun gyrfa’r canwr a’r perfformiwr gwalltog, ac mae’n dal i ganu a pherfformio gyda’r un angerdd digymar hyd heddiw. Cleif Harpwood – yn aelod o fand Ac Eraill, yn brif leisydd i fand Edward H Dafis, ac yn beth wmbredd mwy hefyd. Cawn yma flas ar y rhan a chwaraeodd ef wrth fynd yn groes i’r graen ac arloesi ar y sîn roc, a chawn fewnwelediad ar yr ochr chwerw o’i fywyd a’i yrfa, sy’n profi na fu popeth yn fêl i gyd iddo.
Meddai’r awdur: “Do, fe gawson ni lot fawr o hwyl wrth deithio Cymru ac mae’r gyfrol yn adrodd ambell stori am y giamocs a’r direidi oedd yn rhan o’r profiad o fod mewn band. Mae hefyd yn ymdrin â’r berthynas arbennig oedd yn bodoli rhwng y pump aelod, mi ro’dd Edward H yn frawdoliaeth. Y tristwch yw bod pundits y sîn roc heddiw yn diystyru’r cyfnod hwn yn llwyr gan mai 1980au yn eu tyb nhw oedd dechreuad y byd roc Cymraeg.”
Tu hwnt i hynny, gwelwn fod bro ei febyd wedi bod yn llinyn arian gydol ei fywyd. Meddai: “Cefais fy magu yn Afan Walia, tiriogaeth Arglwyddi Cymreig dyffryn Afan. Rwy’n teimlo bod ardaloedd sy’n bennaf ddi-gymraeg fel Port Talbot wedi’u dilorni gan lawer o bobl dros y blynyddoedd, ond rwy’n gobeithio bydd y gyfrol hon yn amlygu’r diwylliant Cymraeg cyfoethog a fu yno dros y canrifoedd.” Ond wrth gwrs, caiff y lleddf le i anadlu yn y llyfr hwn hefyd, wrth i’r awdur ddweud iddo ddioddef o iselder o ganlyniad i sefyllfa heriol.
Meddai: “Mae’r gyfrol yn adrodd cyfnod yn f’ieuenctid pan oedd ’na bwysau mawr arnaf gan un garfan o’r teulu i ymroi at fath o gred nad oeddwn am ei harddel. Fe heuwyd had ynof a eginodd deimlad o euogrwydd gormesol, a dyna dwi’n meddwl oedd gwraidd y cyflwr. Roedd prysurdeb bywyd yn cadw’r felan draw, ond ro’dd teulu a chydnebydd yn gwybod mod i’n gallu bod yn berson dwys ac oriog.”