Eisteddfod Rhithiol Ysgol Farddol Caerfyrddin 2021
DAETH torf dda o aelodau ynghyd yng Nghlwb Rygbi’r Cwins ac yn rhithiol ar gyfer ein heisteddfod flynyddol eleni ar achlysur yr Hen Galan.
Cafwyd beirniadaeth ar ddeg o gystadlaethau barddonol gan y Prifardd Hywel Griffiths, Aberystwyth. Enillwyd y gadair gan Jo Heyde o Lundain am ei cherdd ar y testun ‘Arwr’.
Cyflwynwyd y Fwyell i Geraint Roberts am ei gerdd gaeth ar y testun ‘Traeth’. Cynhelir ein gwersi yng Nghlwb Rygbi’r Cwins ac yn rhithiol ac mae ein haelodau yn dod o bob rhan o Gymru ac o Lundain. Dyma’r canlyniadau a detholiad o’r cerddi buddugol.
Cerdd y Gadair – Arwr
Hi a wêl, ond heb wylo; mewn trefn, pawb yn mynnu tro i dalu’r deyrnged ola’.
Ni ddaw hedd o’i fuchedd dda. Potensial mewn sglein medalau- a’i lot yn salíwt y gynnau,
Pa rodd hon?
Hithau’n pruddhau, a’i lu yn cario’i liwiau.
Efe’n arwr milwrol? Yn ei wisg mae’n cysgu’n dragwyddol;
Bu Menter Gorllewin Sir Gâr yn brysur iawn gyda phrosiect mewn dau leoliad o fewn ein hardal sef Llanboidy a Chwmann. Trwy arian nawdd oddi wrth Gronfa Gwendoline a Margaret Davies, sefydlodd y fenter clwb cinio ar gyfer dinasyddion hŷn dros misoedd y gaeaf.
Dechreuodd y clybiau ym mis Tachwedd a bu’r mynychwyr yn mwynhau pryd dau gwrs o fwyd cynnes, a the neu goffi i ddilyn- i gyd am ddim! Braf iawn oedd gweld cymaint o bobl yr ardal yno, ac yn medru cymdeithasu gyda’i gilydd eto ar ôl y cyfyngiadau rydym eisoes wedi bod yn byw ynddynt. Bu dros 35 o bobl yn mynychu bob clwb.
Cinio Nadolig oedd ar y fwydlen ym mis Rhagfyr, ac roedd y pryd 2 gwrs yn flasus iawn. Yng nghlwb mis Ionawr, pei cyw iâr, llysiau a threiffl oedd i’w fwyta.
Nododd llawer o fynychwyr nad oeddent wedi gweld ei gilydd ers cyn y cyfnod clo, gan fod llawer o ddigwyddiadau heb ail-gychwyn. Roedd hi’n braf i Menter Gorllewin Sir Gâr gynnal digwyddiad ar eu cyfer, a diolchwn yn fawr iawn i bawb am fynychu. ei wên hardd, oesoedd yn ôl, a’i iawn wisg ei wisg ysgol. Llafar eu galar, a’r Gair a’i ffeithiau dilyffethair yn gorws, a’r holl gariad yn faeth, ond nid yn gryfhad.
Y gwron gwâr yn gorwedd- a rhy fawr i’r fam yw’r unigedd, nawr ei baich yw tendio’r bedd, yn dawel, gwylia’r diwedd.
Yr holl loes.
Rhy hwyr yw llwch y geiriau o ddiolchgarwch, a’r murmur o dosturi.
Fy mab; mab yw ef i mi.
Agored Englyn – Goleuni
Daw arfau yn ddiderfyn, yn ddial, yn ddüwch taflegryn, beunos, y nos fflachia’n wyn, i adael ond llygedyn.
Cwpled – ar yr odl -os
Meirion Jones
Un awr yn mynnu aros yw f’ofn i yn nwfn y nos.
Jo Heyde
Lowri Lloyd
Limrig
Aeth criw o Langain i Quatar* a chanddynt U gwpan yn sbâr, ond daethpwyd â’r sain yn ôl i Langain; ‘Llanugain’ sydd nawr ar y sgwâr.
Aled Evans *pan rannwyd y tasgau roedd teipo yn enw Qatar
Yr Holl Fyd Cwpled – yn cynnwys enw afon
Si mewn dwr, sy’ yma’n dal ein cynfyd, yng Nghwm Cynfal.
Ceredig Thomas
Englyn – I groesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir Gâr
Dewch ar ras allan, dewch oll o’r mynyddoedd; a dewch i blwyf, dewch â’ch bloedd i wefru ymhlith dyfroedd.
Ceredig Thomas o’r dinasoedd, dewch
Englyn milwr – Calan
Tro’r rhod tua’r dyfodol wedi’r ffair a’n ffalster ffôl, a mynnwn fflam y wennol.
Alun Tobias
Cywydd - Ffenest
(16:8)
Mae’r afal yn fy nghalw a’r dorth yn rhoi ‘how-di-dw!’: wirion bost am dost i de a’r stumog fel ffair ‘stymie…. …ond ‘Ap’ sy’ chwap yn chwipio â tecst sy’n atgoffa ‘to bod awr, cyn bwyd i dorri’r newyn main, heb nam i mi. O’n nolur dw i’n elwa, yn ddysg yw’r ympryd sy’n dda; hoe i’r afu’n ffafr hefyd: lles i’r bol yn lles i’r byd.
Cywion Cwpled
Siw Harston
Os nad yw hwn yn Snowdon, dringfa i’r Wyddfa yw hon.
Shelagh Fishlock
Cynhelir gwersi’r Ysgol Farddol yng Nghlwb Rygbi’r Cwins bob yn ail nos Fercher yn ystod misoedd y gaeaf.
Darperir gwersi trwy gyfrwng Zoom yn ogystal a gellir cael rhagor o fanylion trwy gysylltu â Geraint ar geraintroberts@btinternet.com neu ar 07814701079.