Strategaeth Cyngor Tref Caerfyrddin – Ymgynghoriad Chwefror 2023
MAE Cyngor Tref Caerfyrddin yn galw ar y gymuned leol i rannu eu syniadau ar gyfer gweithrediad strategaeth ddiwygiedig y cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Beth hoffech i’r cyngor ei gyflawni fel rhan o’r strategaeth ddiwygiedig? Mae’n cynnwys themâu fel adfer economaidd, cynaladwyedd, y gymuned a’i phobl, diwylliant a’r Gymraeg.
Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i glywed barn y gymuned leol ac i ddeall beth sy’n bwysig i breswylwyr yr ardal. Bydd y wybodaeth a gesglir wedyn yn cael ei defnyddio i flaenoriaethu gwaith a fydd o fudd i’r gymuned.
Bydd gan y strategaeth cynllun gweithredu ar wahân a fydd yn nodi’r hyn y mae’r cyngor yn bwriadu ei gyflawni ar gyfer y gymuned rhwng nawr a diwedd 2027.
Mae’n bwysig bod y cynllun gweithredu yn cael ei lywio, ar sail syniadau a chynigion y gymuned leol a’r hyn yr hoffai trigolion ei weld ar gyfer y dref.
Anogwn i chi ymateb a rhannu’r ymgynghoriad hwn gyda chymaint o ffrindiau a theulu â phosibl; po fwyaf o bobl sy’n cwblhau’r arolwg, y mwyaf y bydd y strategaeth yn adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned.
Bydd y canfyddiadau’n cael eu trafod gyda chynghorwyr a swyddogion y cyngor fel rhan o benderfynu ar flaenoriaethau’r dref ar gyfer y dyfodol.
Mae’r arolwg hwn yn agored i unrhyw un, o unrhyw oedran sy’n byw ar hyn o bryd Nghaerfyrddin, Tre Ioan a Llanllwch.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei rannu ar wefan Cyngor Tref Caerfyrddin www. cyngortrefcaerfyrddin.gov.uk , a’n tudalen Facebook yn ystod cyfnod yr arolwg.
Bydd posteri hefyd yn cael eu harddangos ar draws y dref ac mae copïau papur o’r arolwg hefyd ar gael o Neuadd Ddinesig San Pedr a’r Siop De ym Mharc Caerfyrddin ogystal â mannau eraill o gwmpas y dref megis caffis, y llyfrgell ac ati.
Cynhelir sesiwn galw heibio i gynnig cyfle i’r cyhoedd rannu eu barn yn bersonol ddydd Mercher 15 Chwefror rhwng 6 a 7pm.
Gellir cyflwyno sylwadau hefyd drwy e-bost i Glerc y Dref: eesmith@ carmarthentowncouncil.gov.uk neu drwy ffonio 01267 235199.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 28 Chwefror 2023. Dewch i rannu’ch synaidau, mae’ch barn yn bwysig iawn i ni.