Cynllun Profi, Menter Gorllewin Sir Gâr, yn ehangu a datblygu
Nod Cynllun Profi a weinyddir gan Fenter Gorllewin Sir Gâr yw cynorthwyo pobl ifanc i wella eu sgiliau byd gwaith ynghyd â dangos iddynt sut y gall sgiliau’r iaith Gymraeg fod o fantais iddynt yn eu gyrfa.
Mae platfform www.profi.cymru wedi’i chreu gyda chynnwys digidol, apelgar i gynorthwyo pobl ifanc i ddod yn ymwybodol o’u sgiliau a’u cryfderau unigol er mwyn ymgeisio am gyfleoedd yn y dyfodol, a’u hannog i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr cymdeithas.
Mae’r cynllun, a ddechreuodd fel peilot yn 2016, yn parhau i fynd o nerth i nerth. Erbyn hyn cyllidir Cynllun Profi gan Gronfa Gymunedol y Loteri, Cynllun Arfor – Llwyddo’n Lleol ac yn fwyaf diweddar gan Gronfa Ffyniant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn caniatáu i’r cynllun i esblygu, datblygu a gwella’n barhaus gan wneud gwahaniaeth arwyddocaol i’r bobl ifanc sy’n cofrestru ar y platfform ac sy’n derbyn cymorth a chefnogaeth wyneb yn wyneb. Mae hyn hefyd yn golygu bod gwasanaeth Cynllun Profi’n cael ei ehangu i ardaloedd eraill a bod mwy o bobl ifanc yn gallu manteisio a chael gwerth o gynnwys y cynllun.
Mae cyllid Cronfa Ffyniant Cyngor Sir Gâr yn mynd i'n galluogi i ddatblygu cymhwyster trwy Agored Cymru er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster neu achrediad am eu gwaith. Mae unedau Agored Cymru’n unedau a grëwyd ar y cyd gyda chyflogwyr ac felly’n paratoi pobl ifanc yn ymarferol at fyd gwaith.
Yn ogystal â chreu platfform, llwyddwyd i ddatblygu cwis sgiliau rhyngweithiol a chreu cyfres o ffilmiau a phodlediadau sy’n arddangos y cyfleoedd a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer sectorau twf lleol. O ganlyniad i gyllid ychwanegol trwy Llwyddo’n Lleol a’r Gronfa Ffyniant rydym yn medru sicrhau fod trawstoriad ehangach o sectorau ar draws ardaloedd lleol amrywiol yn rhan o’r cynllun.
Bwriad Cynllun Profi yw addysgu pobl ifanc am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael o fewn ein cymunedau ac yna eu hannog i aros, neu symud yn ôl i’r ardal yn dilyn cyfnod yn y coleg neu’n y brifysgol.
Yn ôl Meinir Evans, Cydlynydd y Cynllun : ‘Gan fod sgiliau pawb yn wahanol, rydym wedi creu adnodd rhyngweithiol a fydd yn cynorthwyo pobl ifanc i adnabod eu cryfderau a’r sgiliau sydd angen iddynt wella ar gyfer y byd gwaith. Rydym yn falch iawn o’r ffaith ein bod wedi gallu creu adnodd arloesol, gan taw dyma’r unig gwis sgiliau rhyngweithiol yr ydym yn ymwybodol ohono yn yr iaith Gymraeg.’
Rhan gyffrous o Gynllun Profi yw’r cydweithio gyda busnesau lleol er mwyn sicrhau fod y bobl ifanc sy’n cofrestru ar y platfform yn cael cynigion arbennig ar nifer o wasanaethau a nwyddau. Mae’r Cynllun yn cynnig Carden Wobrwyo Profi sy’n caniatáu i’r bobl ifanc wario’n lleol ond gan gynnig gostyngiad deniadol iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r busnesau lleol sydd wedi ymrwymo i fod yn rhan o Garden Wobrwyo Profi.
Rydym yn awyddus i barhau i ddatblygu ac ehangu ymhellach a chroesewir pob adborth wrth i ni sicrhau fod ein pobl ifanc yn llwyddo ac yn cyrraedd eu llawn dwf.