Carmarthen Journal

Bois Bro Teifi yn y Principali­ty

-

Bu cyffro mawr yr wythnos ddiwethaf wrth i fechgyn hŷn Ysgol Bro Teifi wynebu Ysgol Bro Pedr yn ffeinal Plât dan 18 yr ysgolion a’r colegau.

Mi roedd yn brofiad bythgofiad­wy i’r bechgyn gael camu ar gae chwarae mwyaf Cymru lle rydym wedi gweld nifer o sêr Cymru yn chwarae yn cynnwys Gareth Davies a Gareth Thomas, cyn ddisgyblio­n yn Ysgol Dyffryn Teifi.

Fe deithiodd disgyblion y chweched a blwyddyn 11, yn ogystal â theulu a ffrindiau’r chwaraewyr i lawr i’r brifddinas bore dydd Mercher diwethaf er mwyn cefnogi’r bechgyn tuag at y fuddugolia­eth. Roedd y gefnogaeth yn grêt a nifer o ddisgyblio­n iau yr ysgol yn barod i wylio o’r ysgol.

Ar ddechrau’r gêm cafwyd munud i gofio am ddau ddisgybl, Callum Wright o Ysgol Bro Pedr a Llyr Davies o Ysgol Bro Teifi. Roedd Llyr yn gymeriad hoffus ac yn boblogaidd yn yr ysgol.

Fe ddechreuod­d y gêm yn wych i Fro Teifi wrth i Guto Dafis sgorio cais gyntaf y gêm o fewn 30 eiliad.

Yn dilyn cais Guto, fe sgoriodd Osian Taylor gais o dan y pyst, ail gais i Fro Teifi.

Daeth trydydd a phedwerydd cais yr ysgol i Tomos Edwards ac fe wnaeth Tomos Lloyd-evans, capten y tîm, sicrhau pwyntiau pwysig wrth gicio. Wedi brwydro trwy gydol y gêm y sgôr terfynol oedd 29-7 i Fro Teifi ac roedd y tîm yn hollol haeddianno­l o’r fuddugolia­eth. Penodwyd Tomos Edwards yn chwaraewr y gêm.

Ar ôl arwain y tîm, dywedodd Tomos Lloyd-evans: “Roedd e’n brofiad anhygoel cael arwain y bois mewn ffeinal yn y Principali­ty. O’r cychwyn roedd y bois wedi dangos calon ac roedd yn amlwg o’r dechrau bod y bois lan am y gêm yma. Roedd hi’n fraint cael chwarae ein gêm diwethaf i’r ysgol mewn ffeinal yng Nghaerdydd, ac roedd yn bonws cael ennill cystadleua­eth y plât yn ogystal â churo cystadleua­eth rhwng bois lleol.”

Llongyfarc­hiadau enfawr i’r bechgyn a gobeithiwn yn wir eich gweld yn y ffeinal eto y flwyddyn nesaf!

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom